| Community Leader Cymru Rhyl Cymraeg |
Arweinwyr Cymdeithasol Cymru: Arweinydd Cymunedol RhylChwefror – Mehefin 2026Rhaglen datblygu sgiliau arwain ar gyfer arweinwyr prysur mentrau gwirfoddol, cymunedol a chymdeithasol er mwyn cynyddu eu heffaith drwy ddatblygu cydnerthedd, dylanwad, hyder a rhwydwaith cymorth. Dyddiad cau ymgeisio: 11:59pm ddydd Gwener, 19 Rhagfyr 2025 Am ddim Ymgeisiwch nawr Cofrestrwch eich diddordebGwybodaeth am y rhaglenYdych chi’n arweinydd yn sector gwirfoddol, cymunedol a menter gymdeithasol Cymru? Efallai eich bod chi’n arweinydd yn eich cymuned, yn eich gweithle, neu drwy brofiad. Os ydych chi wedi cefnogi pobl, cyflawni prosiectau, neu eiriol dros newid, rydych chi’n arweinydd. Nod y rhaglen sgiliau a galluoedd hon, a ariennir yn llawn, yw meithrin a sicrhau arweinwyr ac arloesedd yn y cyfnod ansicr hwn. Mae’r rhaglen hon ar gyfer arweinwyr cymdeithasol sy’n byw/gweithio o fewn ardaloedd sy’n elwa o Gronfeydd Cymunedol Gwynt y Môr a Gwastadeddau’r Rhyl (gweler y map isod). Rydych chi’n hollbwysig yng Nghymru – mae llawer ohonoch chi’n gweithio’n ddiflino i helpu i adfer ein cymunedau. Mae’r rhaglen hon yn creu amser, caniatâd, a lle i wella’ch lles, cydnerthedd ac empathi, ac mae wedi’i datblygu’n benodol i ymateb i’n heriau ni i gyd. Cynhelir y rhaglen rhwng mis Chwefror a mis Mehefin 2026 yn y Rhyl, a’i nod yw dod â 30 o arweinwyr cymunedol at ei gilydd i feithrin gallu, cryfhau cymunedau, a dysgu oddi wrth ei gilydd. Rydyn ni am greu gofod lle rydych chi’n teimlo’n ddiogel ac yn egnïol, ac yn gallu datblygu rhwydwaith o arweinwyr cymunedol eraill i gydweithio â nhw yn y dyfodol ar ôl cwblhau’r rhaglen. Bydd y rhaglen yn dechrau ym mis Chwefror 2026. Cewch hyd i drosolwg o elfennau’r rhaglen isod.Bydd y rhaglen yn cynnwys wyth sesiwn yn y cnawd a thair sesiwn ar-lein sydd fel arfer rhwng dwy a thair awr o ran hyd. At ei gilydd, bydd yna 11 sesiwn, a’r ymrwymiad amser yn fras fydd 1 diwrnod y mis. Mae dyddiadau’r sesiynau i’w gweld o dan amserlen y rhaglen isod.
Gyda diolch arbennig i gyllidwyr y rhaglen, Cronfeydd Cymunedol Gwynt y Môr a Gwastadeddau’r Rhyl, a Chronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, am y cyfle i gyflwyno’r rhaglen hon am ddim yng Nghymru. Gwybodaeth am y rhaglen
Nodweddion y Rhaglen
Cronfeydd Cymunedol Gwynt y Môr a Gwastadeddau’r Rhyl – Ardaloedd sy’n Elwa (yr holl ardaloedd sydd wedi’u lliwio) Partneriaid a chyllidwyr![]() Dyddiadau AllweddolDyddiad cau ar gyfer ceisiadauRydyn ni bellach yn derbyn ceisiadau ac mae gennych tan 11:59pm ddydd Gwenner, 19 Rhagfyr 2025 i ymgeisio. Os nad ydych chi’n barod i wneud cais, cofrestrwch eich diddordeb i dderbyn nodyn atgoffa cyn y dyddiad cau. Penderfyniad cymedroliBydd ymgeiswyr yn cael gwybod am ganlyniad eu cais erbyn dydd lau, 8 Ionawr 2026. Dechrau’r rhaglenBydd y rhaglen yn dechrau ar 3 Chwefror 2026. Cewch hyd i drosolwg o elfennau’r rhaglen isod. Mae Arweinwyr Cymdeithasol Cymru yn bartneriaeth rhwng Cwmpas, Clore Social Leadership a Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru ac rydyn ni’n falch o fod yn bartner cyflawni ar gyfer y rhaglen unigryw hon yng Nghymru. Cefnogir y prosiect gan Grŵp Cynghori ar Brosiect y mae ei aelodau'n adlewyrchu amrywiaeth a chyrhaeddiad y sector - sy'n arwydd o'r effaith rydyn ni am i'r rhaglenni ei chael. Rôl y grŵp Cynghori yw helpu i lunio'r rhaglen er mwyn ei gwneud yn berthnasol ac yn effeithiol i'r sector cymdeithasol yng Nghymru. Rydyn ni hefyd yn ddigon ffodus i fod yn gweithio gyda chyfarwyddwyr rhaglenni yng Nghymru, sydd hefyd yn cefnogi datblygiad y rhaglenni ac a fydd yn arwain holl weithgareddau'r rhaglen.
Meini prawf cymhwystraPob lefel o brofiadMae’r rhaglen hon yn agored i bob lefel o brofiad. Mae’n fwyaf addas i unigolion sy’n gweithio ar lefel leol, gymunedol ac sy’n gallu dangos profiad o arwain prosiectau neu dimau. Gallai hyn fod yn llawnamser neu’n rhan-amser, yn gyflogedig neu’n wirfoddol. Gweithio at ddiben cymdeithasolMae hyn yn cyfeirio at unrhyw grŵp, menter, prosiect neu sefydliad lleol sy’n gweithio yn y sectorau elusennol a menter gymdeithasol neu ddiwylliannol yng Nghymru. Ymrwymiad i amrywiaethAnogwn yn gryf geisiadau gan unigolion o gefndiroedd amrywiol, oherwydd credwn fod meithrin amrywiaeth a thegwch yn hanfodol i greu cymdeithas decach a chynhwysol. Angerdd dros newid cymdeithasolMae eich ymroddiad i wella’ch hun i ysgogi newid cymdeithasol effeithiol yn hanfodol, gan fod hyn yn gwella’ch galluoedd eich hun wrth gyfrannu at newidiadau cadarnhaol i’r gymuned a chymdeithas yn ei chyfanrwydd. Cyflawni’ch potensialMae hwn yn gyfle unigryw i ddatblygu i fod yn arweinydd cydnerth, sy’n rhwydweithio’n dda ac sy’n hyderus i weithredu newid ystyrlon yn eich cymuned. Er mwyn sicrhau cydweithio effeithiol, dim ond 30 lle sydd ar y cwrs. CanlyniadauByddwch yn cael eich tywys i ddatblygu galluoedd arwain sy’n ysbrydoli, yn grymuso, yn ddewr, yn hael ac sydd â phwyslais ac angerdd – rhinweddau sy’n hanfodol i unrhyw arweinydd effeithiol mewn menter wirfoddol, gymunedol neu gymdeithasol. Byddwch yn dysgu sut i roi’r sgiliau a’r ymddygiadau hyn ar waith; beth yw eich cryfderau a’ch meysydd i’w gwella; a sut gallwch ddatblygu ac annog y rhain ynoch chi eich hun ac eraill.
Dewch i ddarganfod a datblygu’r sgiliau a’r ymddygiadau sylfaenol a all sicrhau llwyddiant ar lawr gwlad, ar lefel gymunedol. Dewch i adnabod eich hun, eich pwrpas unigryw, a’r effaith rydych chi’n ei chael ar eraill. Dewch hefyd i wella’ch sgiliau cyfathrebu a pherthnasoedd, ac i ddysgu sut i atal cyfnodau o chwythu plwc a gorbryder i chi eich hun a’ch timau. Gyda’r sgiliau hyn a rhwydwaith cefnogol, bydd y rhaglen yn eich grymuso i ddatblygu’n arweinydd ffres, ystwyth a chydnerth, er mwyn ymdopi â’r argyfwng costau byw. Rhowch hwb i’r hyder sydd gennych yn eich gallu i arwain er mwyn datblygu ac ehangu prosiectau/sefydliadau ac, yn y pen draw, i gael effaith. Byddwch yn dechrau datblygu i fod yn arweinydd hunanweithredol gyda’r hyder a’r cydnerthedd i lywio sefyllfaoedd cymhleth, ansicr a newidiol. Dyma gyfle i gwrdd ag arweinwyr cymunedol eraill a datblygu rhwydwaith cryfach o gymheiriaid cefnogol. Mae meithrin perthynas â’ch carfan yn eich galluogi i greu gweledigaeth gydgysylltiedig a all ysbrydoli ac ysgogi eraill. Mae carfannau’r gorffennol wedi canfod bod y gefnogaeth y maen nhw’n ei derbyn gan eu cymheiriaid yn ystod ac ar ôl y rhaglen yn hanfodol yn eu taith tuag at ddod yn arweinydd gwell. Rydyn ni’n eich annog i feithrin cysylltiadau cryf gyda’ch cymheiriaid er mwyn cael cyngor, arweiniad a chyfeillgarwch am flynyddoedd i ddod. Ewch i'r afael â'r heriau rydych chi'n eu hwynebu ar hyn o bryd yn eich sefydliad neu eich cymuned gydag atebion ymarferol a fydd yn para. Barn cyfranogwyr y gorffennolGwybodaeth am ymgeisioFfi y rhaglen: Diolch i gefnogaeth hael a charedig y cyllidwyr, Cronfeydd Cymunedol Gwynt y Môr a Gwastadeddau’r Rhyl, a Chronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, gallwn gynnig y rhaglen hon am ddim. Mae hyn yn galluogi hyfforddiant sy’n hygyrch i bawb. Mae'n gyfle unigryw i gael mynediad at hyfforddiant gwerth £1,000, a hynny’n rhad ac am ddim. Mae bwrsariaeth fach ar gael i gefnogi costau teithio, e.e. teithio i’r digwyddiadau yn y cnawd ar gyfer sefydliadau neu unigolion sydd ddim yn gallu talu’r costau hynny. Canllawiau ymgeisio Gallwch arbed eich cais a dychwelyd ato. Cysylltwch â ni ar info@cloresocialleadership.org.uk os hoffech unrhyw help ychwanegol neu addasiadau gyda’ch cais. Gweminar: Ymunwch â ni ar gyfer ein gweminarau ddydd Mercher, 5 Tachwedd (12:30–1pm), neu ddydd Mercher, 3 Rhagfyr (12:30pm–1pm), i ddysgu mwy am y rhaglen, i gwrdd â’r tîm a chyfranogwyr blaenorol, ac i gael atebion i’ch cwestiynau. Gallwch gofrestru ar gyfer y weminar yma. Edrychwn ymlaen at eich gweld chi yno!Cliciwch yma gofrestru. Amserlen y RhaglenGwyddom y gall datblygiad proffesiynol gael effaith drawsnewidiol arnoch chi a’ch sefydliad, ond mae neilltuo amser iddo yn gallu bod yn her. Gweler isod drosolwg o amserlen y rhaglen i’ch helpu i flaengynllunio.
Elfennau’r y rhaglenCwrs dysgu hybrid, chwe wythnos o hyd, sy’n defnyddio model o hunanystyried i arwain cyfranogwyr drwy elfennau craidd datblygu arweinwyr cymdeithasol. Byddwch yn dechrau gwaith ar Gynllun Datblygu Arweinydd y byddwch yn ei ddatblygu drwy gydol y rhaglen a’i holl elfennau. Cewch wedyn gadw’r cynllun i barhau i ddatblygu fel arweinydd. Am fwy o wybodaeth ynglŷn â’r rhaglen hon, cliciwch yma. Bydd Gweithdai Arweinyddiaeth yn darparu sesiynau â ffocws, rhyngweithiol wedi'u cynllunio i fireinio sgiliau arweinyddiaeth a galluoedd y grŵp Arweinydd Cymunedol. Mae'r gweithdai hyn yn cynnig mewnwelediadau gwerthfawr, adnoddau ymarferol, a strategaethau i ddatblygu arferion arwain effeithiol. Bydd y gweithdai'n cael eu teilwra i anghenion arweinyddiaeth penodol a phwysicaf eich carfan, a bydd yn ymdrin ag amrywiaeth o bynciau fel cyfathrebu, gwneud penderfyniadau, deallusrwydd emosiynol, a meddwl strategol, gan roi'r sgiliau angenrheidiol i arweinwyr fel y gallant lywio heriau cymhleth y sector cymdeithasol. Bydd y Cylchoedd Dysgu Cymheiriaid yn gyfle i archwilio’ cynnwys y modiwlau yn fanylach a chewch eich gwahodd i ddefnyddio'r gofod hwn i rannu’ch dysgu, eich myfyrdodau a’ch mewnwelediadau personol ynghylch
sut rydych chi'n cymhwyso'r galluoedd hyn i’ch gwaith a'ch arweinyddiaeth eich hun gyda chymheiriaid eich carfan. Mae'r gofod cylch dysgu cymheiriaid wedi'i gynllunio i ymgorffori'r syniad bod 'Arweinwyr
yn meithrin Mae'r system proffilio personoliaeth bwerus hon yn rhoi portread unigryw o bwy ydych chi, gan eich helpu i gynyddu eich hunanymwybyddiaeth, datgelu potensial cudd a'ch helpu i ddeall sut rydych chi'n ymddwyn o dan bwysau. Mae hyn yn cynnwys sesiwn hyfforddi diwrnod llawn. Caiff y rhaglen ei llywio’n drwm gan gyfranogwyr, a’r newid y maen nhw am ei greu yn eu cymuned. Ar ddiwedd y rhaglen, bydd y garfan yn cael ei dwyn ynghyd ar gyfer yr ‘Hacathon’ yn y cnawd. Bydd pawb yn gweithio gyda’i gilydd tuag at y newid cadarnhaol y maen nhw’n ceisio ei greu fel carfan. Ein dulliauBydd Fframwaith Galluoedd Cymdeithasol a Model Datblygu Arweinyddiaeth Clore Social Leadership yn llywio dysgu’r rhaglen. Trwy ddefnyddio ein Model Datblygu Arweinyddiaeth (isod), byddwch yn dysgu sut a pha olwg sydd ar y sgiliau a’r ymddygiadau hyn ar waith, lle mae eich cryfderau a’ch meysydd i’w gwella, a sut y gallwch eu datblygu a’u hannog ynoch chi’ch hun ac eraill. Trwy ddefnyddio ein Fframwaith Galluoedd Cymdeithasol (isod), cewch eich arwain i ddatblygu galluoedd arwain hael, angerddol, dewr, â ffocws, sy’n ysbrydoli ac yn grymuso – rhinweddau hanfodol i unrhyw arweinydd effeithiol. Adnabod eich hun, Bod yn naturiol, Gofalu amdanoch eich hunRhaid i ddatblygiad arweinyddiaeth ddechrau gyda hunanymwybyddiaeth. Mae’r arweinwyr mwyaf llwyddiannus yn asesu’u cryfderau, eu gwendidau, eu cymhellion a’u gwerthoedd yn feirniadol. Mae arweinyddiaeth yn anodd, felly mae’n bwysig hefyd meithrin gwydnwch corfforol ac emosiynol, a gofalu am eu lles eu hunain fel y gallant ymateb yn effeithiol i heriau arweinyddiaeth. Cliciwch ar y cylchoedd mewnol i ddysgu rhagor. Asesu Cyd-destunMae ‘systemau’ y sector cymdeithasol yn newid yn gyflym. Rydym yn byw mewn byd deinamig sy'n trawsnewid ein gweithleoedd, gwleidyddiaeth, cymunedau a materion moesol. Er mwyn cwrdd â'r gofynion hyn, mae angen i arweinwyr cymdeithasol ddeall cymhlethdodau systemau sy’n newid. Rhaid iddynt hefyd fod yn ymwybodol o'r heriau a'r cyfleoedd sydd o'n blaenau i lywio eu timau a'u sefydliadau, a gwneud y gorau o'r hyn y mae'r newidiadau hyn yn ei gynnig. Cliciwch ar y cylchoedd mewnol i ddysgu rhagor. Gweithio Gyda a Thrwy EraillNid yw arweinydd yn bodoli nac yn llwyddo ar ei ben ei hun. Mae angen sgiliau cymdeithasol ac empathi i ysbrydoli, cymell a grymuso eraill, wrth barchu amrywiaeth a dathlu'r pŵer a ddaw yn sgil gwenud gwahaniaeth. Mae gweithio gydag eraill a thrwy eraill yn cynnwys cydweithredu, ffurfio partneriaethau, yn ogystal ag ysbrydoli a thyfu arweinwyr eraill, i gyd wrth gael effaith gymdeithasol gadarnhaol. Cliciwch ar y cylchoedd mewnol i ddysgu rhagor. Fframwaith Galluoedd Arweinyddiaeth Gymdeithasol
Mae bod yn arweinydd cymdeithasol a moesegol yn galw am alluoedd penodol. Mae’r Fframwaith Galluoedd Arweinyddiaeth Gymdeithasol yn amlinellu’r priodweddau, yr ymddygiadau a’r sgiliau y mae eu hangen ar gyfer arweinyddiaeth lwyddiannus yn y sector cymdeithasol. Mae’r Fframwaith Galluoedd yn dangos sut a pha olwg sydd ar y sgiliau a’r ymddygiadau hyn ar waith. Mae cael fframwaith yn galluogi arweinwyr i fyfyrio ac asesu’u sgiliau presennol. Mae’n rhoi’r grym iddynt amlygu bylchau mewn arweinyddiaeth a chynllunio’u datblygiad personol a phroffesiynol eu hunain.
Galluogwr Ymrymuso
Cliciwch ar allu arall i ddysgu rhagor.
Strategwr â Ffocws
Cliciwch ar allu arall i ddysgu rhagor.
Eiriolwr Angerddol
Cliciwch ar allu arall i ddysgu rhagor.
Cydweithredwr Hael
Cliciwch ar allu arall i ddysgu rhagor.
Gwneuthurwr newidiadau dewr
Cliciwch ar allu arall i ddysgu rhagor.
Cyfathrebwr Ysbrydoledig
Cliciwch ar allu arall i ddysgu rhagor.
Cwestiynau CyffredinNac oes, nid oes angen i chi gael unrhyw gymwysterau academaidd neu broffesiynol penodol i gymryd rhan yn y rhaglen. Gwyddom y gall hyfforddiant datblygu arweinyddiaeth fod yn anodd iawn
cael mynediad iddo yn y sector cymdeithasol, felly ceisiwn sicrhau bod mynediad ar gael i bobl heb fawr o hyfforddiant blaenorol. Eich angerdd dros y gwaith a'ch profiad yw'r cyfan sydd
ei angen arnoch i ymgeisio. Caiff y profiad o arwain sydd ei angen er mwyn bod yn gymwys ar gyfer y rhaglen ei ddisgrifio fel profiad gwirfoddol neu gyflogedig o arwain pobl, prosiectau neu fentrau. Efallai eich bod wedi cael y profiad hwn ar wahanol adegau yn ystod eich gyrfa. Os yw eich profiad y tu allan i’r meini prawf hyn, ond rydych chi’n teimlo eich bod fel arall yn addas iawn ar gyfer y rhaglen, rhowch wybod i ni yn eich cais pam fod eich profiad yn berthnasol ac yn drosglwyddadwy. Bydd oddeutu 11 sesiwn i’r rhaglen, bydd tri ar-lein ac wyth sesiwn yn y cnawd. Cewch wybod lleoliad y sesiynau yn y cnawd yn Abertawe cyn gynted ag y bydd wedi’i gadarnhau. Mae’r sesiynau fel arfer rhwng dwy i dair awr o ran hyd. Fel rhan o Alumni Clore Social, byddwch yn ymuno â rhwydwaith mawr o arweinwyr y sector cymdeithasol o bob rhan o'r DU. Bydd cyfleoedd i gysylltu ag alumni a chymrodyr a pharhau i ddysgu yn cael eu cefnogi, eu hannog a'u hwyluso lle bynnag y bo modd. Rydym bob amser yn datblygu rhaglenni newydd, ac efallai y bydd gennym rywbeth o ddiddordeb i chi yn y dyfodol, felly cadwch mewn cysylltiad, a rhowch wybod i ni os oes gennych unrhyw syniadau, neu os ydych am ddatblygu rhywbeth gyda ni ar gyfer eich prosiect neu eich cymuned leol. Os rydych angen unrhyw addasiadau rhesymol ar gyfer y broses ymgeisio, cysylltwch â ni drwy - info@cloresocialleadership.org.uk. Rydym yn ymdrechu i ateb ymholiadau o fewn 48 awr. Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, cysylltwch â ni - info@cloresocialleadership.org.uk. Rydym yn ymdrechu i ateb ymholiadau o fewn 48 awr. Rhaglenni eraill yn y gyfres
|
29/09/2025 » 21/11/2025
Management Fundamentals September 2025
10/11/2025 » 05/12/2025
Discover Programme November 2025