Launching Social Leaders Cymru
17 June 2021
(0 Comments)
Posted by: Clore Social Leadership
Clore Social Leadership in partnership with the Wales Co-Operative Centre will deliver online leadership programmes in 2021/2022 exclusively for social leaders in Wales.
Social Leaders Cymru has opened applications for the first series of online skills and development programmes, to bring together the third sector from across Wales. This fully funded opportunity has been made possible by two programme funders, Garfield
Weston Foundation and The Moondance Foundation. It aims to assist the recovery of the third sector from Covid-19 by enhancing resilience, strengthening communities and increasing the diversity of leaders.
The series offers six different programme streams for individuals at various levels of their career or community role: New Manager, Emerging Leader, Experienced Leader, Board Leader, Digital Leader (all levels) and Community Leader. Successful applicants
will be offered one place in the programme and the programme will also offer open events for the whole sector to benefit from.
Derek Walker, Chief Executive of Wales Co-operative said:
“It’s a pleasure to welcome Clore Social Leadership to Wales and to provide a high-quality learning programme for charity and community leaders. This is a unique opportunity to receive valuable management and leadership training and development for free.
For us, connecting leaders, encouraging collaboration and creating lasting culture change is vital in helping re-build community organisations and services following the pandemic.”
Shaks Ghosh CBE, Chief Executive of Clore Social commented:
“We are delighted to be partnering with the Wales Co-operative Centre on Social Leaders Cymru. The programme series has been developed in close collaboration with our partners and local organisations and stakeholders to ensure it tackles the diversity,
challenges and opportunities specific to Wales. It will be delivered using topic-specific modules, platforms and learning tools developed and tested by Clore Social, as well as other tried-and-tested leadership development resources. We are looking
forward to the first streams to start in September 2021 and to see how the programme grows in Wales throughout the year.”
The programme series is for paid or voluntary staff from across the social sector in Wales, including charities, social enterprises, grassroots organisations and community projects, CICs, CSR departments, etc. Applications are especially encouraged from
women, people from black and minority backgrounds, and those working outside of major Welsh cities.
Welsh translation below:
Bydd Clore Social Leadership mewn partneriaeth â Chanolfan Cydweithredol Cymru yn cyflwyno rhaglen arweinyddiaeth ar-lein yn 2021/2022 yn benodol ar gyfer arweinwyr cymdeithasol yng Nghymru.
Mae Social Leaders Cymru wedi agor ar gyfer ceisiadau ar gyfer y gyfres gyntaf o raglenni sgiliau a datblygu ar-lein, i ddwyn y trydydd sector o bob rhan o Gymru at ei gilydd. Mae’r cyfle hwn sydd wedi ei ariannu’n llawn yn bosibl diolch i ddau ariannwr
i’r rhaglen, y Garfield Weston Foundation a The Moondance Foundation.
Ei nod yw cynorthwyo i adfer y trydydd sector ar ôl Covid-19 trwy gryfhau gwytnwch, cryfhau cymunedau a chynyddu'r amrywiaeth ymhlith arweinwyr.
Mae’r gyfres yn cynnig chwe ffrwd rhaglen wahanol i unigolion ar lefelau amrywiol yn eu gyrfa neu eu rôl yn y gymuned: Rheolwr Newydd, Arweinydd Datblygol, Arweinydd Profiadol, Arweinydd Bwrdd, Arweinydd Digidol (pob lefel) ac Arweinydd Cymunedol. Bydd
ymgeiswyr llwyddiannus yn cael cynnig un lle ar y rhaglen a bydd y rhaglen hefyd yn cynnig digwyddiadau agored i’r sector cyfan gael budd ohonynt.
Dywedodd Derek Walker, Prif Weithredwr Canolfan Cydweithredol Cymru:
“Mae’n bleser croesawu Clore Social Leadership i Gymru ac i gynnig rhaglen addysgu o safon uchel i arweinwyr elusennau a chymunedau. Dyma gyfle unigryw i dderbyn hyfforddiant a datblygiad mewn rheoli ac arweinyddiaeth am ddim. I ni, mae cysylltu arweinyddion,
annog cydweithrediad a chreu diwylliant parhaol o newid yn hanfodol i helpu i ailadeiladu sefydliadau a gwasanaethau cymunedol yn dilyn y pandemig.”
Dywedodd Shaks Ghosh CBE, Prif Weithredwr Clore Social:
“Rydym yn falch iawn o fod mewn partneriaeth â Chanolfan Cydweithredol Cymru ar Social Leaders Cymru. Datblygwyd y gyfres o raglenni ar y cyd â’n partneriaid, sefydliadau lleol a rhanddeiliaid i sicrhau ei bod yn ymdrin ag amrywiaeth, heriau a chyfleoedd
sy’n benodol i Gymru. Bydd yn cael ei chyflwyno gan ddefnyddio modylau penodol i bwnc, llwyfannau ac offer dysgu a ddatblygwyd ac a brofwyd gan Clore Social, yn ogystal ag adnoddau datblygu arweinyddiaeth sydd wedi hen ennill eu plwyf. Rydym yn edrych
ymlaen at weld y ffrydiau cyntaf yn dechrau ym Medi 2021 ac i weld sut y bydd y rhaglen yn tyfu yng Nghymru trwy gydol y flwyddyn.”
Mae’r gyfres o raglenni ar gyfer staff cyflogedig neu wirfoddol o bob rhan o’r sector cymdeithasol yng Nghymru, gan gynnwys elusennau, mentrau cymdeithasol, sefydliadau lleol a phrosiectau cymunedol, Cwmnïau Budd Cymunedol, adrannau Cyfrifoldeb Cymdeithasol
Corfforaethol, ac ati. Rhoddir anogaeth yn arbennig i fenywod, pobl o gefndiroedd du a lleiafrifoedd, a’r rhai sy’n gweithio tu allan i brif ddinasoedd Cymru i ymgeisio.
|