| Social Leaders Cymru Cymraeg |
Social Leaders CymruArweinwyr Cymdeithasol Cymru - Dyddiadau amrywiol 2024 a 2025Hyfforddiant arweinyddiaeth ar-lein ac wyneb yn wyneb i arweinwyr cymdeithasol yng Nghymru. Mae'r rhaglen yn cefnogi arweinwyr mentrau gwirfoddol, cymunedol a chymdeithasol ar bob cam o’u taith arweinyddiaeth. Am ddim
Cofrestrwch i gael diweddariadau Gweld pob rhaglen Gwybodaeth am y rhaglenMae Arweinwyr Cymdeithasol Cymru yn bartneriaeth rhwng Cwmpas, Clore Social Leadership a Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru ac rydyn ni’n falch o fod yn bartner cyflawni ar gyfer y rhaglen unigryw hon yng Nghymru. Gan ddatblygu ar y dysgu o'r prosiect peilot yn 2021/2022 bydd y rhaglen newydd hon yn:
Mae'r rhaglen yn cynnig cyfleoedd hyfforddi ar-lein ac wyneb yn wyneb i gyfranogwyr ledled Cymru a bydd yn cefnogi dysgu gan gymheiriaid ac yn cryfhau rhwydweithiau. Bydd Arweinwyr Cymdeithasol Cymru yn dod ag arweinwyr o bob rhan o Gymru at ei gilydd i gefnogi, herio a dysgu gan ei gilydd. Mae'r rhaglenni wedi'u cynllunio i ymestyn sgiliau presennol arweinwyr er mwyn iddynt ddod yn fwy hyderus, wedi’u grymuso ac yn gydnerth, gan gefnogi arweinwyr i wneud gwahaniaeth cadarnhaol yn eu cymunedau. Bydd y rhaglen yn cynnwys pum rhaglen ddysgu, er mwyn sicrhau cyfleoedd datblygu arweinyddiaeth wedi'u teilwra ar gyfer arweinwyr o bob lefel a phrofiad. Ymunwch â ni ar gyfer ein gweminar ddydd mercher 16 Hydref 12.30 – 13.30 i gael gwybod mwy am y rhaglenni, i gwrdd â'r tîm a chael ateb i'ch cwestiynau. Rydym yn edrych ymlaen at eich gweld chi yno! .Gyda diolch arbennig i ariannwr y rhaglen, Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, am y cyfle i gyflwyno'r rhaglen hon am ddim yng Nghymru. Manylion y Cwrs
Nodweddion y Cwrs
Partners & chyllidwyr
Cefnogir y prosiect gan Grŵp Cynghori ar Brosiect y mae ei aelodau'n adlewyrchu amrywiaeth a chyrhaeddiad y sector - sy'n arwydd o'r effaith rydyn ni am i'r rhaglenni ei chael. Rôl y grŵp Cynghori yw helpu i lunio'r rhaglen er mwyn ei gwneud yn
berthnasol ac yn effeithiol i'r sector cymdeithasol yng Nghymru. Social Leaders Cymru seriesAm ddim
Arweinydd Cymunedol Cymru - Lleoliad: CasnewyddMae ceisiadau yn cau
Digwyddiadau ar-lein ac mewn person. Rhaglen chwe mis ar gyfer arweinwyr mentrau gwirfoddol, cymunedol a chymdeithasol yng Nghymru i ddatblygu potensial arweinyddiaeth, cryfhau rhwydweithiau a sbarduno newid cymdeithasol. Mehefin - Rhagfyr 2024Rhagor o wybodaethAm ddim
Arweinydd Cymunedol Cymru - Lleoliad: WrecsamMae ceisiadau yn cauDigwyddiadau ar-lein ac mewn person. Rhaglen chwe mis ar gyfer arweinwyr mentrau gwirfoddol, cymunedol a chymdeithasol yng Nghymru i ddatblygu potensial arweinyddiaeth, cryfhau rhwydweithiau a sbarduno newid cymdeithasol.Medi 2024 - Mawrth 2025Rhagor o wybodaethAm ddim
Arweinydd Cymunedol Cymru - Lleoliad: AbertaweMae ceisiadau yn cauDigwyddiadau ar-lein ac mewn person. Rhaglen chwe mis ar gyfer arweinwyr mentrau gwirfoddol, cymunedol a chymdeithasol yng Nghymru i ddatblygu potensial arweinyddiaeth, cryfhau rhwydweithiau a sbarduno newid cymdeithasol.Ionawr 2025 - Gorffennaf 2025Rhagor o wybodaethAm ddim
Arweinydd Newydd Cymru - Ar-leinMae ceisiadau yn cauRhaglen ar-lein pedwar mis wedi'i chynllunio ar gyfer arweinwyr yng Nghymru sydd â thair – chwe blynedd o brofiad arweinyddiaeth yn y sector cymdeithasol. Medi 2024 - Rhagfyr 2024Rhagor o wybodaethAm ddim
Arweinydd Profiadol Cymru - Ar-leinMae ceisiadau yn cauRhaglen ar-lein pedwar mis wedi'i chynllunio ar gyfer arweinwyr yng Nghymru sydd â chwe blynedd a mwy o brofiad arwain yn y sector cymdeithasol. Ionawr 2025 - Ebrill 2025Rhagor Maeo wybodaethEin dulliauBydd Fframwaith Galluoedd Cymdeithasol a Model Datblygu Arweinyddiaeth Clore Social Leadership yn llywio dysgu’r rhaglen. Trwy ddefnyddio ein Model Datblygu Arweinyddiaeth (isod), byddwch yn dysgu sut a pha olwg sydd ar y sgiliau a’r ymddygiadau hyn ar waith, lle mae eich cryfderau a’ch meysydd i’w gwella, a sut y gallwch eu datblygu a’u hannog ynoch chi’ch hun ac eraill. Trwy ddefnyddio ein Fframwaith Galluoedd Cymdeithasol (isod), cewch eich arwain i ddatblygu galluoedd arwain hael, angerddol, dewr, â ffocws, sy’n ysbrydoli ac yn grymuso – rhinweddau hanfodol i unrhyw arweinydd effeithiol. Adnabod eich hun, Bod yn naturiol, Gofalu amdanoch eich hunRhaid i ddatblygiad arweinyddiaeth ddechrau gyda hunanymwybyddiaeth. Mae’r arweinwyr mwyaf llwyddiannus yn asesu’u cryfderau, eu gwendidau, eu cymhellion a’u gwerthoedd yn feirniadol. Mae arweinyddiaeth yn anodd, felly mae’n bwysig hefyd meithrin gwydnwch corfforol ac emosiynol, a gofalu am eu lles eu hunain fel y gallant ymateb yn effeithiol i heriau arweinyddiaeth. Cliciwch ar y cylchoedd mewnol i ddysgu rhagor. Asesu Cyd-destunMae ‘systemau’ y sector cymdeithasol yn newid yn gyflym. Rydym yn byw mewn byd deinamig sy'n trawsnewid ein gweithleoedd, gwleidyddiaeth, cymunedau a materion moesol. Er mwyn cwrdd â'r gofynion hyn, mae angen i arweinwyr cymdeithasol ddeall cymhlethdodau systemau sy’n newid. Rhaid iddynt hefyd fod yn ymwybodol o'r heriau a'r cyfleoedd sydd o'n blaenau i lywio eu timau a'u sefydliadau, a gwneud y gorau o'r hyn y mae'r newidiadau hyn yn ei gynnig. Cliciwch ar y cylchoedd mewnol i ddysgu rhagor. Gweithio Gyda a Thrwy EraillNid yw arweinydd yn bodoli nac yn llwyddo ar ei ben ei hun. Mae angen sgiliau cymdeithasol ac empathi i ysbrydoli, cymell a grymuso eraill, wrth barchu amrywiaeth a dathlu'r pŵer a ddaw yn sgil gwenud gwahaniaeth. Mae gweithio gydag eraill a thrwy eraill yn cynnwys cydweithredu, ffurfio partneriaethau, yn ogystal ag ysbrydoli a thyfu arweinwyr eraill, i gyd wrth gael effaith gymdeithasol gadarnhaol. Cliciwch ar y cylchoedd mewnol i ddysgu rhagor. Fframwaith Galluoedd Arweinyddiaeth Gymdeithasol
Mae bod yn arweinydd cymdeithasol a moesegol yn galw am alluoedd penodol. Mae’r Fframwaith Galluoedd Arweinyddiaeth Gymdeithasol yn amlinellu’r priodweddau, yr ymddygiadau a’r sgiliau y mae eu hangen ar gyfer arweinyddiaeth lwyddiannus yn y sector cymdeithasol. Mae’r Fframwaith Galluoedd yn dangos sut a pha olwg sydd ar y sgiliau a’r ymddygiadau hyn ar waith. Mae cael fframwaith yn galluogi arweinwyr i fyfyrio ac asesu’u sgiliau presennol. Mae’n rhoi’r grym iddynt amlygu bylchau mewn arweinyddiaeth a chynllunio’u datblygiad personol a phroffesiynol eu hunain.
Galluogwr Ymrymuso
Cliciwch ar allu arall i ddysgu rhagor.
Strategwr â Ffocws
Cliciwch ar allu arall i ddysgu rhagor.
Eiriolwr Angerddol
Cliciwch ar allu arall i ddysgu rhagor.
Cydweithredwr Hael
Cliciwch ar allu arall i ddysgu rhagor.
Gwneuthurwr newidiadau dewr
Cliciwch ar allu arall i ddysgu rhagor.
Cyfathrebwr Ysbrydoledig
Cliciwch ar allu arall i ddysgu rhagor.
Cwestiynau CyffredinNac oes, nid oes angen i chi gael unrhyw gymwysterau academaidd neu broffesiynol penodol i gymryd rhan yn y rhaglen. Gwyddom y gall hyfforddiant datblygu arweinyddiaeth fod yn anodd iawn cael mynediad iddo yn y sector cymdeithasol,
felly ceisiwn sicrhau bod mynediad ar gael i bobl heb fawr o hyfforddiant blaenorol. Eich angerdd dros y gwaith a'ch profiad yw'r cyfan sydd ei angen arnoch i ymgeisio. Disgrifir y profiad arweinyddiaeth sydd ei angen er mwyn bod yn gymwys ar gyfer y rhaglen fel profiad gwirfoddol neu gyflogedig o arwain pobl, prosiectau neu fentrau. Efallai y byddwch wedi cael y profiad hwn ar wahanol adegau yn ystod eich gyrfa. Os yw eich profiad y tu allan i'r meini prawf hyn, ond eich bod yn teimlo eich bod fel arall yn addas iawn ar gyfer y rhaglen, rhowch wybod i ni yn eich cais pam fod eich profiad yn berthnasol ac yn drosglwyddadwy. Fel rhan o Alumni Clore Social, byddwch yn ymuno â rhwydwaith mawr o arweinwyr y sector cymdeithasol o bob rhan o'r DU. Bydd cyfleoedd i gysylltu ag alumni a chymrodyr a pharhau i ddysgu yn cael eu cefnogi, eu hannog a'u hwyluso lle bynnag y bo modd. Rydym bob amser yn datblygu rhaglenni newydd, ac efallai y bydd gennym rywbeth o ddiddordeb i chi yn y dyfodol, felly cadwch mewn cysylltiad, a rhowch wybod i ni os oes gennych unrhyw syniadau, neu os ydych am ddatblygu rhywbeth gyda ni ar gyfer eich prosiect neu eich cymuned leol. Os rydych angen unrhyw addasiadau rhesymol ar gyfer y broses ymgeisio, cysylltwch â ni drwy - info@cloresocialleadership.org.uk. Rydym yn ymdrechu i ateb ymholiadau o fewn 48 awr. Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, cysylltwch â ni - info@cloresocialleadership.org.uk. Rydym yn ymdrechu i ateb ymholiadau o fewn 48 awr. |
29/09/2025 » 21/11/2025
Management Fundamentals September 2025
10/11/2025 » 05/12/2025
Discover Programme November 2025