| Community Leader Cymru Swansea Cymraeg |
Arweinyddd Cymunedol Cymru - AbertaweEinyddiaeth ar gyfer arweinwyr prysur mentrau gwirfoddol, cymunedol a chymdeithasol i gynyddu eu heffaith drwy ddatblygu cydnerthedd, dylanwad, hyder a rhwydwaith cymorth Mae ceisiadau yn cauAm ddimCofrestru ar gyfer diweddariadauGwybodaeth am y rhaglenYn galw pob arweinydd gwirfoddol, cymunedol a menter gymdeithasol! Nod y rhaglen sgiliau a meithrin gallu hon a ariennir yn llawn yw meithrin ac ailgyflenwi arweinyddiaeth ac arloesedd yn y cyfnod ansicr hwn. Rydych chi’n hollbwysig yng Nghymru - mae llawer ohonoch chi’n gweithio'n ddiflino i helpu i adfer ein cymunedau. Mae'r rhaglen hon yn creu amser, caniatâd a lle i wella’ch lles, cydnerthedd ac empathi, ac mae wedi'i datblygu'n benodol i ymateb i'n heriau ni i gyd. Bydd y rhaglen yn cael ei chynnal rhwng mis Ionawr - Gorfennaf 2025 yng Abertawe , a’i nod yw dod â 30 o arweinwyr cymunedol at ei gilydd i feithrin gallu, cryfhau cymunedau a dysgu oddi wrth ei gilydd. Rydyn ni am greu gofod lle rydych chi'n teimlo'n ddiogel ac yn egnïol ac yn gallu datblygu rhwydwaith o arweinwyr cymunedol eraill i gydweithio â nhw yn y dyfodol ar ôl cwblhau’r rhaglen. Gellir lawrlwytho llawlyfr y rhaglen yma. Croesewir ceisiadau hefyd os ydych wedi lleoli tu allan o Abertawe. Ond, nodwch mai gan y rhaglen tua unarddeg sesiwn, a bydd tri ohonynt ar-lein ac wyth sesiwn yn cael eu cynnal wyneb yn wyneb. Mae'r sesiynau fel arfer rhwng dwy a tair
awr.
Gyda diolch arbennig i ariannwr y rhaglen, Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, am y cyfle i gyflwyno'r rhaglen hon am ddim yng Nghymru. Gwybodaeth am y rhaglenyanylion
Nodweddion y Rhaglen
Partneriaid a chyllidwyr
Mae Arweinwyr Cymdeithasol Cymru yn bartneriaeth rhwng Cwmpas, Clore Social Leadership a Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru ac rydyn ni’n falch o fod yn bartner cyflawni ar gyfer y rhaglen unigryw hon yng Nghymru. Cefnogir y prosiect gan Grŵp Cynghori ar Brosiect y mae ei aelodau'n adlewyrchu amrywiaeth a chyrhaeddiad y sector - sy'n arwydd o'r effaith rydyn ni am i'r rhaglenni ei chael. Rôl y grŵp Cynghori yw helpu i lunio'r rhaglen er mwyn ei gwneud yn berthnasol ac yn effeithiol i'r sector cymdeithasol yng Nghymru. Rydyn ni hefyd yn ddigon ffodus i fod yn gweithio gyda chyfarwyddwyr rhaglenni yng Nghymru, sydd hefyd yn cefnogi datblygiad y rhaglenni ac a fydd yn arwain holl weithgareddau'r rhaglen.
Meini prawf cymhwystraAm ddimMae'r rhaglen hon yn agored i bob lefel o brofiad. Mae'n fwyaf addas i unigolion sy'n gweithio ar lefel leol, gymunedol ac sy’n dangos profiad o arwain prosiectau neu dimau. Gallai fod yn llawn amser neu'n rhan-amser, yn gyflogedig neu'n wirfoddol. Gweithio at ddiben cymdeithasolMae hyn yn cyfeirio at unrhyw grŵp, menter, prosiect neu sefydliad lleol sy'n gweithio o fewn y sectorau elusennol, mentrau cymdeithasol neu ddiwylliannol yng Nghymru. Wedi ymrwymo i amrywiaethRydyn ni’n annog yn gryf ceisiadau gan unigolion o gefndiroedd amrywiol. Yn frwd dros newid cymdeithasolMae eich ymroddiad i wella’ch hun i ysgogi newid cymdeithasol effeithiol yn hanfodol. Cyflawni’ch potensialMae hwn yn gyfle unigryw i ddatblygu i fod yn arweinydd cydnerth, sy’n rhwydweithio'n dda ac sy’n hyderus i weithredu newid ystyrlon yn eich cymuned Er mwyn sicrhau cydweithio effeithiol, mae nifer y derbyniadau i’r cwrs yn gyfyngedig i 30 lle. Ceisiadau bellach ar gau. CanlyniadauByddwch yn cael eich tywys i ddatblygu galluoedd arwain sy’n ysbrydoli, yn grymuso, yn ddewr, yn hael ac sydd â ffocws ac angerdd - rhinweddau sy'n hanfodol i unrhyw arweinydd effeithiol mewn menter wirfoddol, gymunedol neu gymdeithasol. Byddwch yn dysgu sut i roi’r sgiliau a'r ymddygiadau hyn ar waith, beth yw eich cryfderau a'ch meysydd gwella, a sut y gallwch ddatblygu ac annog y rhain ynoch chi eich hun ac eraill.
Darganfod a datblygu'r sgiliau a'r ymddygiadau sylfaenol a all sicrhau llwyddiant ar lawr gwlad, ar lefel gymunedol. Dewch i adnabod eich hun, eich pwrpas unigryw a'r effaith rydych chi'n ei chael ar eraill, gwella sgiliau cyfathrebu a pherthnasoedd, ac atal chwythu plwc a gorbryder i chi eich hun a'ch timau. Trwy'r sgiliau hyn a rhwydwaith cefnogol, bydd y rhaglen yn eich grymuso i ddatblygu arweinyddiaeth sydd wedi adfywio, sy’n ystwyth ac sy’n gydnerth, er mwyn ymdopi trwy’r argyfwng costau byw. Rhowch hwb i'ch hyder yn eich galluoedd arwain i ddatblygu a graddio’ch prosiectau/sefydliadau ac yn y pen draw cael effaith. Byddwch yn dechrau datblygu i fod yn arweinydd hunanweithredol gyda'r hyder a'r cydnerthedd i lywio sefyllfaoedd cymhleth, ansicr a newidiol. Cyfle i gwrdd ag arweinwyr cymunedol eraill a datblygu rhwydwaith cryfach o gymheiriaid cefnogol. Mae buddsoddi mewn perthynas â'ch carfan yn eich galluogi i greu gweledigaeth gydgysylltiedig a all ysbrydoli ac ysgogi eraill. Mae carfannau'r gorffennol wedi canfod bod y gefnogaeth y maen nhw’n ei derbyn gan eu cymheiriaid yn ystod ac ar ôl y rhaglen yn hanfodol yn eu taith tuag at ddod yn arweinydd gwell. Rydyn ni’n annog datblygu cysylltiadau cryf gyda'ch cymheiriaid er mwyn cael gyngor, arweiniad a chyfeillgarwch am flynyddoedd i ddod. Ewch i'r afael â'r heriau rydych chi'n eu hwynebu ar hyn o bryd yn eich sefydliad neu eich cymuned gydag atebion ymarferol a fydd yn para. Beth mae ein cyfranogwyr blaenorol yn ei ddweudDyddiadau AllweddolDyddiad cau ar gyfer ceisiadauDdydd Llun 11 Tachwedd 2024 am 11:59pm. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cyflwyno'ch cais yn gynnar gan fod llefydd yn brin. Penderfyniad cymedroliBydd ymgeiswyr yn cael gwybod am ganlyniad eu cais erbyn Dydd Mawrth 19 Tachwedd 2024. Rhaglen yn dechrau : Mercher 29 Ionawr 2025Bydd manylion llawn o elfennau'r rhaglen yn cael eu darparu i ymgeiswyr llwyddiannus i gefnogi cynllunio ymlaen llaw. Gwybodaeth am wneud caisFfi y rhaglen: Diolch i gefnogaeth hael a charedig yr ariannwr, Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, rydyn ni’n gallu cynnig y rhaglen hon am ddim, mae hyn yn galluogi hyfforddiant sgiliau a datblygu sy’n hygyrch i bawb. Mae'n gyfle unigryw i gael mynediad at werth £1,000 hyfforddiant sgiliau arwain a datblygu am ddim Mae bwrsariaeth fach ar gael i gefnogi costau hygyrchedd e.e. teithio l i ddigwyddiadau rhaglen bersonol ar gyfer sefydliadau neu unigolion nad ydynt yn gallu talu'r costau hynny. Bydd mwy o wybodaeth ar gael i gyfranogwyr llwyddiannus y rhaglen. Canllawiau ar wneud cais: Rydyn ni’n argymell lawrlwytho a darllen y Canllawiau ar Wneud Cais (dogfen Word) i gynllunio’ch atebion ymlaen llaw cyn llenwi'r ffurflen gais ar-lein, gan na fydd y ffurflen yn cadw’ch atebion, felly mae'n rhaid i chi ei chwblhau mewn un eisteddiad. Gweminar: Ar 16 Hydref 12.30 - 13.30 gallwch ymuno â gweminar gwybodaeth i ddysgu mwy am Arweinwyr Cymdeithasol Cymru a chyfle i ofyn eich cwestiynau i'r tîm. Cliciwch yma i gofrestru. Elfennau’r y rhaglenCwrs dysgu hybrid saith wythnos sy'n defnyddio model o hunanystyried i arwain cyfranogwyr drwy elfennau craidd datblygu arweinyddiaeth gymdeithasol. Bydd cyfranogwyr yn gorffen y rhaglen gyda Chynllun Datblygu Arweinyddiaeth hirdymor, yn barod i wneud y gorau o elfennau eraill y rhaglen. I gael rhagor o wybodaeth am y rhaglen hon, cliciwch yma. Bydd Gweithdai Arweinyddiaeth yn darparu sesiynau â ffocws, rhyngweithiol wedi'u cynllunio i fireinio sgiliau arweinyddiaeth a galluoedd y grŵp Arweinydd Cymunedol. Mae'r gweithdai hyn yn cynnig mewnwelediadau gwerthfawr, adnoddau ymarferol, a strategaethau i ddatblygu arferion arwain effeithiol. Bydd y gweithdai'n cael eu teilwra i anghenion arweinyddiaeth penodol a phwysicaf eich carfan, a bydd yn ymdrin ag amrywiaeth o bynciau fel cyfathrebu, gwneud penderfyniadau, deallusrwydd emosiynol, a meddwl strategol, gan roi'r sgiliau angenrheidiol i arweinwyr fel y gallant lywio heriau cymhleth y sector cymdeithasol. Bydd y Cylchoedd Dysgu Cymheiriaid yn gyfle i archwilio’ cynnwys y modiwlau yn fanylach a chewch eich gwahodd i ddefnyddio'r gofod hwn i rannu’ch dysgu, eich myfyrdodau a’ch mewnwelediadau personol ynghylch sut
rydych chi'n cymhwyso'r galluoedd hyn i’ch gwaith a'ch arweinyddiaeth eich hun gyda chymheiriaid eich carfan. Mae'r gofod cylch dysgu cymheiriaid wedi'i gynllunio i ymgorffori'r syniad bod 'Arweinwyr yn meithrin Mae'r system proffilio personoliaeth bwerus hon yn rhoi portread unigryw o bwy ydych chi, gan eich helpu i gynyddu eich hunanymwybyddiaeth, datgelu potensial cudd a'ch helpu i ddeall sut rydych chi'n ymddwyn o dan bwysau. Mae hyn yn cynnwys sesiwn hyfforddi diwrnod llawn. Mae'r rhaglen yn cael ei llywio'n drwm gan gyfranogwyr, a'r newid y maen nhw am ei greu yn eu cymuned. Ar ddiwedd y rhaglen, bydd y garfan yn cael ei dwyn ynghyd ar gyfer yr Her Arloesi gan Gymheiriaid, a gynhelir fel 'Hacathon' yn y cnawd, er mwyn gweithio gyda'i gilydd tuag at y newid cadarnhaol y maen nhw’n ceisio ei greu gyda'i gilydd. Ein dulliauBydd Fframwaith Galluoedd Cymdeithasol a Model Datblygu Arweinyddiaeth Clore Social Leadership yn llywio dysgu’r rhaglen. Trwy ddefnyddio ein Model Datblygu Arweinyddiaeth (isod), byddwch yn dysgu sut a pha olwg sydd ar y sgiliau a’r ymddygiadau hyn ar waith, lle mae eich cryfderau a’ch meysydd i’w gwella, a sut y gallwch eu datblygu a’u hannog ynoch chi’ch hun ac eraill. Trwy ddefnyddio ein Fframwaith Galluoedd Cymdeithasol (isod), cewch eich arwain i ddatblygu galluoedd arwain hael, angerddol, dewr, â ffocws, sy’n ysbrydoli ac yn grymuso – rhinweddau hanfodol i unrhyw arweinydd effeithiol. Adnabod eich hun, Bod yn naturiol, Gofalu amdanoch eich hunRhaid i ddatblygiad arweinyddiaeth ddechrau gyda hunanymwybyddiaeth. Mae’r arweinwyr mwyaf llwyddiannus yn asesu’u cryfderau, eu gwendidau, eu cymhellion a’u gwerthoedd yn feirniadol. Mae arweinyddiaeth yn anodd, felly mae’n bwysig hefyd meithrin gwydnwch corfforol ac emosiynol, a gofalu am eu lles eu hunain fel y gallant ymateb yn effeithiol i heriau arweinyddiaeth. Cliciwch ar y cylchoedd mewnol i ddysgu rhagor. Asesu Cyd-destunMae ‘systemau’ y sector cymdeithasol yn newid yn gyflym. Rydym yn byw mewn byd deinamig sy'n trawsnewid ein gweithleoedd, gwleidyddiaeth, cymunedau a materion moesol. Er mwyn cwrdd â'r gofynion hyn, mae angen i arweinwyr cymdeithasol ddeall cymhlethdodau systemau sy’n newid. Rhaid iddynt hefyd fod yn ymwybodol o'r heriau a'r cyfleoedd sydd o'n blaenau i lywio eu timau a'u sefydliadau, a gwneud y gorau o'r hyn y mae'r newidiadau hyn yn ei gynnig. Cliciwch ar y cylchoedd mewnol i ddysgu rhagor. Gweithio Gyda a Thrwy EraillNid yw arweinydd yn bodoli nac yn llwyddo ar ei ben ei hun. Mae angen sgiliau cymdeithasol ac empathi i ysbrydoli, cymell a grymuso eraill, wrth barchu amrywiaeth a dathlu'r pŵer a ddaw yn sgil gwenud gwahaniaeth. Mae gweithio gydag eraill a thrwy eraill yn cynnwys cydweithredu, ffurfio partneriaethau, yn ogystal ag ysbrydoli a thyfu arweinwyr eraill, i gyd wrth gael effaith gymdeithasol gadarnhaol. Cliciwch ar y cylchoedd mewnol i ddysgu rhagor. Fframwaith Galluoedd Arweinyddiaeth Gymdeithasol
Mae bod yn arweinydd cymdeithasol a moesegol yn galw am alluoedd penodol. Mae’r Fframwaith Galluoedd Arweinyddiaeth Gymdeithasol yn amlinellu’r priodweddau, yr ymddygiadau a’r sgiliau y mae eu hangen ar gyfer arweinyddiaeth lwyddiannus yn y sector cymdeithasol. Mae’r Fframwaith Galluoedd yn dangos sut a pha olwg sydd ar y sgiliau a’r ymddygiadau hyn ar waith. Mae cael fframwaith yn galluogi arweinwyr i fyfyrio ac asesu’u sgiliau presennol. Mae’n rhoi’r grym iddynt amlygu bylchau mewn arweinyddiaeth a chynllunio’u datblygiad personol a phroffesiynol eu hunain.
Galluogwr Ymrymuso
Cliciwch ar allu arall i ddysgu rhagor.
Strategwr â Ffocws
Cliciwch ar allu arall i ddysgu rhagor.
Eiriolwr Angerddol
Cliciwch ar allu arall i ddysgu rhagor.
Cydweithredwr Hael
Cliciwch ar allu arall i ddysgu rhagor.
Gwneuthurwr newidiadau dewr
Cliciwch ar allu arall i ddysgu rhagor.
Cyfathrebwr Ysbrydoledig
Cliciwch ar allu arall i ddysgu rhagor.
Cwestiynau CyffredinNac oes, nid oes angen i chi gael unrhyw gymwysterau academaidd neu broffesiynol penodol i gymryd rhan yn y rhaglen. Gwyddom y gall hyfforddiant datblygu arweinyddiaeth fod yn anodd iawn cael mynediad iddo yn y sector cymdeithasol,
felly ceisiwn sicrhau bod mynediad ar gael i bobl heb fawr o hyfforddiant blaenorol. Eich angerdd dros y gwaith a'ch profiad yw'r cyfan sydd ei angen arnoch i ymgeisio. Disgrifir y profiad arweinyddiaeth sydd ei angen er mwyn bod yn gymwys ar gyfer y rhaglen fel profiad gwirfoddol neu gyflogedig o arwain pobl, prosiectau neu fentrau. Efallai y byddwch wedi cael y profiad hwn ar wahanol adegau yn ystod eich gyrfa. Os yw eich profiad y tu allan i'r meini prawf hyn, ond eich bod yn teimlo eich bod fel arall yn addas iawn ar gyfer y rhaglen, rhowch wybod i ni yn eich cais pam fod eich profiad yn berthnasol ac yn drosglwyddadwy. Bydd tua unarddeg sesiwn i'r rhaglen, bydd tri ar-lein a wyth sesiwn mewn person. Bydd lleoliad uniongyrchol y sesiynau wyneb yn wyneb yn Abertawe yn cael ei gyfathrebu i chi cyn gynted ag y bydd wedi’i gadarnhau. Mae'r sesiynau fel arfer rhwng dwy i dair awr. Fel rhan o Alumni Clore Social, byddwch yn ymuno â rhwydwaith mawr o arweinwyr y sector cymdeithasol o bob rhan o'r DU. Bydd cyfleoedd i gysylltu ag alumni a chymrodyr a pharhau i ddysgu yn cael eu cefnogi, eu hannog a'u hwyluso lle bynnag y bo modd. Rydym bob amser yn datblygu rhaglenni newydd, ac efallai y bydd gennym rywbeth o ddiddordeb i chi yn y dyfodol, felly cadwch mewn cysylltiad, a rhowch wybod i ni os oes gennych unrhyw syniadau, neu os ydych am ddatblygu rhywbeth gyda ni ar gyfer eich prosiect neu eich cymuned leol. Os rydych angen unrhyw addasiadau rhesymol ar gyfer y broses ymgeisio, cysylltwch â ni drwy - info@cloresocialleadership.org.uk. Rydym yn ymdrechu i ateb ymholiadau o fewn 48 awr. Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, cysylltwch â ni - info@cloresocialleadership.org.uk. Rydym yn ymdrechu i ateb ymholiadau o fewn 48 awr. Rhaglenni eraill yn y gyfres
|
29/09/2025 » 21/11/2025
Management Fundamentals September 2025
10/11/2025 » 05/12/2025
Discover Programme November 2025