This website uses cookies to store information on your computer. Some of these cookies are used for visitor analysis, others are essential to making our site function properly and improve the user experience. By using this site, you consent to the placement of these cookies. Click Accept to consent and dismiss this message or Deny to leave this website. Read our Privacy Statement for more.
Yn dechrau fis Medi 2024, bydd rhaglen Arweinwyr Cymdeithasol Cymru – Arweinwyr Newydd yn dod â chyfoedion ynghyd sy’n frwd dros newid cymdeithasol ac sy’n awyddus i ddatblygu eu sgiliau arwain er mwyn cael mwy o effaith.
Wedi'i
gynnal ar-lein, bydd y cyfranogwyr yn dysgu egwyddorion sylfaenol beth yw bod yn arweinydd cymdeithasol effeithiol. Cânt eu hannog i fyfyrio ar eu harddull a’u dull o arwain eu hunain, a byddan nhw’n archwilio cyfres o bynciau arweinyddiaeth
yn ystod y gweithdai sy’n cyd-fynd â nhw.
Mae’r rhaglen wedi’i chynllunio er mwyn gwneud i gyfranogwyr deimlo eu bod wedi'u grymuso yn eu harweinyddiaeth, gyda'r hyder i arwain yn ddilys. Bydd cyfranogwyr yn cael eu cysylltu â grŵp cymheiriaid o arweinwyr sector cymdeithasol
yng Nghymru, gan ddod â chyfleoedd dysgu ychwanegol yn ogystal â chyfleodd rhwydweithio.
Byddan nhw hefyd yn derbyn Pecyn Cymorth Arweinyddiaeth diriaethol sy'n cynnwys adnoddau ac ymarferion y gallan nhw barhau i gyfeirio'n ôl atyn nhw ar ôl y rhaglen, yn ogystal â'u rhannu â'u timau a'u sefydliadau, i gefnogi datblygiad
arweinyddiaeth barhaus.
Gallwch wylio recordiad o'r weminar am y rhaglenni yma.
Gyda diolch arbennig i ariannwr y rhaglen, Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, am y cyfle i gyflwyno'r rhaglen hon am ddim yng Nghymru.
Gwybodaeth y Rhaglen
Cyflwynir yn Saesneg
Ar-lein yn unig
Ymrwymiad amser 32 awr
Am ddim
Nodweddion y Rhaglen
Rhaglen 14 wythnos
Cymuned ar-lein
25 o leoedd
Cyn-gyfranogwyr Clore Social
Partners & chyllidwyr
Mae Arweinwyr Cymdeithasol Cymru yn bartneriaeth rhwng Cwmpas, Clore Social Leadership a Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru ac rydyn ni’n falch o fod yn bartner cyflawni ar gyfer y rhaglen unigryw hon yng Nghymru. Cefnogir y prosiect gan
Grŵp Cynghori ar Brosiect y mae ei aelodau'n adlewyrchu amrywiaeth a chyrhaeddiad y sector - sy'n arwydd o'r effaith rydyn ni am i'r rhaglenni ei chael. Rôl y grŵp Cynghori yw helpu i lunio'r rhaglen er mwyn ei gwneud yn berthnasol ac
yn effeithiol i'r sector cymdeithasol yng Nghymru.
Meini prawf cymhwystra
Yr egin arweinydd
Mae cyfranogwyr y rhaglen hon yn unigolion sydd wedi ennill o leiaf tair blynedd o brofiad arwain, naill ai â thâl neu’n wirfoddol, gan arwain prosiectau, timau, gwirfoddolwyr a/neu adrannau, o unrhyw sector. Mae'r rhaglen hon
fel arfer yn darparu ar gyfer Rheolwyr, Rheolwyr Prosiect, Arweinwyr Tîm, Uwch Reolwyr a Phenaethiaid, sy'n barod i fynd â'u sgiliau arwain i'r lefel nesaf trwy ddyfnhau eu dealltwriaeth ohonynt eu hunain a'r math o arweinydd
y maent am fod. Os ydych chi'n teimlo bod eich profiad yn mynd y tu hwnt i'r egin arweinydd, byddwn yn cynnig rhaglen i Arweinwyr Profiadol (a ddiffinnir yn nodweddiadol fel y rhai â 6+ mlynedd o brofiad) yn 2025. Cofrestrwch
eich diddordeb ar gyfer hynny yma.
Gweithio at ddiben cymdeithasol
Mae’r rhaglen hon yn agored i unigolion sy’n gweithio i neu gyda sefydliadau â diben cymdeithasol yng Nghymru, gan gynnwys elusennau, mentrau cymdeithasol, Cwmnïau Buddiannau Cymunedol a busnesau nid-er-elw .
Wedi ymrwymo i amrywiaeth
Rydyn ni’n annog yn gryf ceisiadau gan unigolion o gefndiroedd amrywiol.
Yn frwd dros newid cymdeithasol
Mae eich ymroddiad i wella’ch hun i ysgogi newid cymdeithasol effeithiol yn hanfodol.
Cyflawni’ch potensial
Mae hwn yn gyfle unigryw i ddatblygu i fod yn arweinydd cydnerth, sy’n rhwydweithio'n dda ac sy’n hyderus i weithredu newid ystyrlon yn eich cymuned. Er mwyn sicrhau cydweithio effeithiol, mae nifer y derbyniadau i’r cwrs yn gyfyngedig i 25
lle.
Byddwch yn cael eich tywys i ddatblygu galluoedd arwain sy’n ysbrydoli, yn grymuso, yn ddewr, yn hael ac sydd â ffocws ac angerdd - rhinweddau sy'n hanfodol i unrhyw arweinydd effeithiol mewn menter wirfoddol, gymunedol neu gymdeithasol.
Byddwch yn dysgu sut i roi’r sgiliau a'r ymddygiadau hyn ar waith, beth yw eich cryfderau a'ch meysydd gwella, a sut y gallwch ddatblygu ac annog y rhain ynoch chi eich hun ac eraill.
Cliciwch ar y botymau isod i ddysgu mwy am ganlyniadau disgwyliedig y rhaglen.
Darganfod a datblygu'r sgiliau a'r ymddygiadau sylfaenol a all sicrhau llwyddiant ar lawr gwlad, ar lefel gymunedol. Dewch i adnabod eich hun, eich pwrpas unigryw a'r effaith rydych chi'n ei chael ar eraill, gwella
sgiliau cyfathrebu a pherthnasoedd, ac atal chwythu plwc a gorbryder i chi eich hun a'ch timau. Trwy'r sgiliau hyn a rhwydwaith cefnogol, bydd y rhaglen yn eich grymuso i ddatblygu arweinyddiaeth sydd wedi adfywio,
sy’n ystwyth ac sy’n gydnerth, i reoli heriau yn well ac i ysgogi llwyddiant.
Rhowch hwb i'ch hyder yn eich galluoedd arwain i ddatblygu a graddio’ch prosiectau/sefydliadau ac yn y pen draw cael effaith. Byddwch yn dechrau datblygu i fod yn arweinydd hunanweithredol gyda'r hyder a'r cydnerthedd
i lywio sefyllfaoedd cymhleth, ansicr a newidiol.
Byddwn yn eich cefnogi i ddod i adnabod eich hun a'r effaith rydych chi’n ei chael ar eraill, gan helpu i egluro eich pwrpas a'ch dyheadau unigryw, tra'n gwella eich cyfathrebu, perthnasoedd proffesiynol, a’ch lles.
Byddwch yn dod yn fwy effeithiol yn eich rôl, gan ddysgu sut i alluogi perfformiad uchel o fewn eich prosiectau a'ch timau. Mae'r rhaglen hon yn dangos sut i ysbrydoli, datrys gwrthdaro, a gosod nodau effeithiol ar
gyfer gwaith gwirioneddol ragorol. Byddwch yn gallu gosod eich hun fel arweinydd tîm dibynadwy, gyda gweledigaeth glir a chryno
Mae carfannau yn y gorffennol wedi canfod bod y gefnogaeth a gânt gan eu cyfoedion yn ystod ac ar ôl y rhaglen yn hanfodol ar eu taith i ddod yn arweinydd cymdeithasol mwy dylanwadol. Rydym yn annog datblygu cysylltiadau
cryf â'ch cyfoedion ar gyfer cyngor, arweiniad a chyfeillgarwch hirdymor. Bydd gennych hefyd yr opsiwn i ymuno â'n cymuned ar-lein o wneuthurwyr newid, gan helpu i ffurfio bondiau cryf rhwng cyfoedion a rhwydweithiau
i gynyddu sefydliadol a gwytnwch y sector, ac annog arloesi a chydweithio
Beth mae ein cyfranogwyr blaenorol yn ei ddweud
“Mae Clore Social wedi creu ffordd wirioneddol effeithiol o gyflwyno’r rhaglen ar-lein gan ddefnyddio amrywiaeth o dechnoleg heb iddi deimlo’n llethol nac yn gyfyngedig.”
Cyfranogwr Peilot Arweinydd Newydd Cymru
"Roedd y sesiynau'n fuddiol iawn, maen nhw'n addysgiadol ond gyda digon o amser i drafod mewn grwpiau llai. Mae'r rhaglen...yn helpu i feithrin hyder ac ymddiriedaeth o fewn y grŵp i rannu profiadau"
Cyfranogwr peilot Arweinwyr Cymdeithasol Cymru
"Roedd yn dda cyfarfod, rhwydweithio a rhannu arferion da a phrofiadau gan wahanol sefydliadau/cymunedau."
Cyfranogwr peilot Arweinwyr Cymdeithasol Cymru
Dyddiadau Allweddol
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau
Dydd llun 22 Gorffennaf am 11.59pm. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cyflwyno'ch cais mewn da bryd gan na fydd ceisiadau'n cael eu derbyn ar ôl y dyddiad cau.
Penderfyniad cymedroli
Bydd ymgeiswyr yn cael gwybod am ganlyniad eu cais erbyn Dydd llun 29 Gorffennaf 2024.
Rhaglen yn dechrau: Dechrau 12 Medi 2024
Bydd manylion llawn o elfennau'r rhaglen yn cael eu darparu i ymgeiswyr llwyddiannus i gefnogi cynllunio ymlaen llaw.
Gwybodaeth am wneud cais
Ffi y rhaglen: Diolch i gefnogaeth hael a charedig yr ariannwr, Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, rydyn ni’n gallu cynnig y rhaglen hon am ddim, mae hyn yn galluogi hyfforddiant sgiliau a datblygu sy’n hygyrch i
bawb.
Canllawiau ar wneud cais: Rydyn ni’n argymell lawrlwytho a darllen y Canllawiau ar Wneud Cais (dogfen Word) i gynllunio’ch atebion ymlaen llaw cyn llenwi'r ffurflen gais ar-lein, gan na fydd y ffurflen yn cadw’ch atebion,
felly mae'n rhaid i chi ei chwblhau mewn un eisteddiad.
Elfennau’r Rhaglen
Bydd y rhaglen yn cynnig mynediad at gyfoeth o ymyriadau datblygu arweinyddiaeth sydd wedi'u cynllunio er mwyn helpu cyfranogwyr i feithrin y sgiliau, y wybodaeth a'r rhwydweithiau gofynnol ar gyfer arwain newid cymdeithasol
yn effeithiol.
Sesiwn groeso: Byddwn yn eich croesawu ar y rhaglen, yn eich cysylltu â’ch cyd-Arweinwyr Newydd a fydd yn ymuno â chi ar y daith hon ac yn amlinellu
beth i’w ddisgwyl o’r rhaglen.
-------------------
Y Rhaglen Discover: Cwrs dysgu hybrid wyth wythnos sy'n defnyddio model o hunanystyried i arwain cyfranogwyr drwy elfennau craidd datblygu arweinyddiaeth
gymdeithasol. Bydd cyfranogwyr yn gorffen y rhaglen gyda Chynllun Datblygu Arweinyddiaeth hirdymor. I gael rhagor o wybodaeth am y rhaglen hon, cliciwch yma.
-------------------
3x Gweithdai Arweinyddiaeth wedi’u hwyluso: Wedi’u cynnal ar-lein, bydd y sesiynau dwy awr hyn yn ategu’r hyn a ddysgwyd o’r rhaglen Darganfod
ac yn archwilio themâu arweinyddiaeth allweddol. Byddan nhw’n cael eu teilwra i ddiwallu anghenion dysgu ac arweinyddiaeth penodol y garfan.
-------------------
Gweithdy Arweinyddiaeth Ddilys a Lumina Spark: Mae'r gweithdy hwn yn canolbwyntio ar yr offeryn Lumina Spark, proffil seicometrig unigol
sydd wedi'i gynllunio i helpu pobl i ddeall eu cryfderau craidd a myfyrio ar sut mae'r rhain yn chwarae allan ar adegau o her ac ansicrwydd. Bydd y cyfranogwyr yn derbyn adroddiad manwl, yn seiliedig ar eu hymatebion i arolwg byr, a fydd
yn cyd-fynd â gweithdy rhyngweithiol dan arweiniad. Byddwch yn darganfod eich cymhellion sylfaenol a’ch potensial cudd, yn deall eich ymddygiadau bob dydd a sut rydych yn ymateb i bwysau, ac yn dysgu sut i arwain yn ddilys a gwella gweithio
gydag eraill.
-------------------
Sesiwn gloi: Yn y sesiwn olaf hon byddwn yn myfyrio ar eich dysgu am arweinyddiaeth, yn rhoi arweiniad o amgylch eich Cynllun Datblygu Arweinyddiaeth
ac yn archwilio’r camau nesaf yn eich taith datblygu arweinyddiaeth.
-------------------
Pecyn cymorth arweinyddiaeth: Byddwn yn darparu pecyn o adnoddau arweinyddiaeth i chi y gallwch eu rhannu gyda'ch timau i gefnogi datblygiad
arweinyddiaeth parhaus.
-------------------
Sesiwn Dal i Fyny Ôl-Raglen: Cynhelir y sesiwn hon dri mis ar ôl i'r rhaglen ddod i ben, ac mae'n gyfle i chi ail-gwrdd â'ch cyfoedion yn y garfan
i fyfyrio a rhannu cyflawniadau, heriau a dysg arweinyddiaeth diweddar a hefyd gosod bwriadau ar gyfer y dyfodol.
Amserlen y Rhaglen
Mae'r sesiynau isod i gyd yn elfennau o’r rhaglen sy'n cael eu cynnal fel carfan.
Sesiwn
Dyddiad ac amser
Ar-lein: Sesiwn groeso
Dydd lau 12th Medi 10:00-12:00
Ar-lein : Gweithdy Arweinyddiaeth #1
Dydd lau 26th Medi 10:00-12:00
Ar-lein: Gweithdy Arweinyddiaeth #2
Dydd lau 10th Hydref 10:00-12:00
Ar-lein: Gweithdy Arweinyddiaeth #3
Dydd lau 24th Hydref 10:00-12:00
Ar-lein: Spark Lumina
Dydd lau 14th Tachwedd 09:30-13:30
Ar-lein : Sesiwn gloi
Dydd Mawrth 10th Rhagfyr 10:00-12:00
Ar-lein : Y Garfan yn dal i fyny
Dydd mercher 5th Mawrth 2025 10:00-11:30
Ein dulliau
Bydd Fframwaith Galluoedd Cymdeithasol a Model Datblygu Arweinyddiaeth Clore Social Leadership yn llywio dysgu’r rhaglen. Trwy ddefnyddio ein Model Datblygu Arweinyddiaeth (isod), byddwch yn dysgu sut a pha olwg sydd ar y sgiliau
a’r ymddygiadau hyn ar waith, lle mae eich cryfderau a’ch meysydd i’w gwella, a sut y gallwch eu datblygu a’u hannog ynoch chi’ch hun ac eraill. Trwy ddefnyddio ein Fframwaith Galluoedd Cymdeithasol (isod), cewch eich arwain
i ddatblygu galluoedd arwain hael, angerddol, dewr, â ffocws, sy’n ysbrydoli ac yn grymuso – rhinweddau hanfodol i unrhyw arweinydd effeithiol.
Adnabod eich hun, Bod yn naturiol, Gofalu amdanoch eich hun
Rhaid i ddatblygiad arweinyddiaeth ddechrau gyda hunanymwybyddiaeth. Mae’r arweinwyr mwyaf llwyddiannus yn asesu’u cryfderau, eu gwendidau, eu cymhellion a’u gwerthoedd yn feirniadol. Mae arweinyddiaeth yn anodd,
felly mae’n bwysig hefyd meithrin gwydnwch corfforol ac emosiynol, a gofalu am eu lles eu hunain fel y gallant ymateb yn effeithiol i heriau arweinyddiaeth.
Cliciwch ar y cylchoedd mewnol i ddysgu rhagor.
Asesu Cyd-destun
Mae ‘systemau’ y sector cymdeithasol yn newid yn gyflym. Rydym yn byw mewn byd deinamig sy'n trawsnewid ein gweithleoedd, gwleidyddiaeth, cymunedau a materion moesol. Er mwyn cwrdd â'r gofynion hyn, mae angen i
arweinwyr cymdeithasol ddeall cymhlethdodau systemau sy’n newid. Rhaid iddynt hefyd fod yn ymwybodol o'r heriau a'r cyfleoedd sydd o'n blaenau i lywio eu timau a'u sefydliadau, a gwneud y gorau o'r hyn y mae'r
newidiadau hyn yn ei gynnig.
Cliciwch ar y cylchoedd mewnol i ddysgu rhagor.
Gweithio Gyda a Thrwy Eraill
Nid yw arweinydd yn bodoli nac yn llwyddo ar ei ben ei hun. Mae angen sgiliau cymdeithasol ac empathi i ysbrydoli, cymell a grymuso eraill, wrth barchu amrywiaeth a dathlu'r pŵer a ddaw yn sgil gwenud gwahaniaeth.
Mae gweithio gydag eraill a thrwy eraill yn cynnwys cydweithredu, ffurfio partneriaethau, yn ogystal ag ysbrydoli a thyfu arweinwyr eraill, i gyd wrth gael effaith gymdeithasol gadarnhaol.
Cliciwch ar y cylchoedd mewnol i ddysgu rhagor.
Fframwaith Galluoedd Arweinyddiaeth Gymdeithasol
Mae bod yn arweinydd cymdeithasol a moesegol yn galw am alluoedd penodol. Mae’r Fframwaith Galluoedd Arweinyddiaeth Gymdeithasol yn amlinellu’r priodweddau, yr ymddygiadau a’r sgiliau y mae eu hangen ar gyfer arweinyddiaeth lwyddiannus
yn y sector cymdeithasol. Mae’r Fframwaith Galluoedd yn dangos sut a pha olwg sydd ar y sgiliau a’r ymddygiadau hyn ar waith. Mae cael fframwaith yn galluogi arweinwyr i fyfyrio ac asesu’u sgiliau presennol. Mae’n rhoi’r grym iddynt
amlygu bylchau mewn arweinyddiaeth a chynllunio’u datblygiad personol a phroffesiynol eu hunain.
Nac oes, nid oes angen i chi gael unrhyw gymwysterau academaidd neu broffesiynol penodol i gymryd rhan yn y rhaglen. Gwyddom y gall hyfforddiant datblygu arweinyddiaeth fod yn anodd iawn cael mynediad iddo yn y sector cymdeithasol,
felly ceisiwn sicrhau bod mynediad ar gael i bobl heb fawr o hyfforddiant blaenorol. Eich angerdd dros y gwaith a'ch profiad yw'r cyfan sydd ei angen arnoch i ymgeisio.
Disgrifir y profiad arweinyddiaeth sydd ei angen er mwyn bod yn gymwys ar gyfer y rhaglen fel profiad gwirfoddol neu gyflogedig o arwain pobl, prosiectau neu fentrau. Efallai y byddwch wedi cael y profiad hwn ar wahanol adegau
yn ystod eich gyrfa. Os yw eich profiad y tu allan i'r meini prawf hyn, ond eich bod yn teimlo eich bod fel arall yn addas iawn ar gyfer y rhaglen, rhowch wybod i ni yn eich cais pam fod eich profiad yn berthnasol ac yn drosglwyddadwy.
Beth sy'n digwydd unwaith y bydd y rhaglen wedi'i chwblhau? Fel rhan o Alumni Clore Social, byddwch yn ymuno â rhwydwaith mawr o arweinwyr y sector cymdeithasol o bob rhan o'r DU. Bydd cyfleoedd i gysylltu ag alumni a chymrodyr
a pharhau i ddysgu yn cael eu cefnogi, eu hannog a'u hwyluso lle bynnag y bo modd. Rydym bob amser yn datblygu rhaglenni newydd, ac efallai y bydd gennym rywbeth o ddiddordeb i chi yn y dyfodol, felly cadwch mewn cysylltiad,
a rhowch wybod i ni os oes gennych unrhyw syniadau, neu os ydych am ddatblygu rhywbeth gyda ni ar gyfer eich prosiect neu eich cymuned leol.
Fel rhan o Alumni Clore Social, byddwch yn ymuno â rhwydwaith mawr o arweinwyr y sector cymdeithasol o bob rhan o'r DU. Bydd cyfleoedd i gysylltu ag alumni a chymrodyr a pharhau i ddysgu yn cael eu cefnogi, eu hannog a'u hwyluso
lle bynnag y bo modd. Rydym bob amser yn datblygu rhaglenni newydd, ac efallai y bydd gennym rywbeth o ddiddordeb i chi yn y dyfodol, felly cadwch mewn cysylltiad, a rhowch wybod i ni os oes gennych unrhyw syniadau,
neu os ydych am ddatblygu rhywbeth gyda ni ar gyfer eich sefydliad.