This website uses cookies to store information on your computer. Some of these cookies are used for visitor analysis, others are essential to making our site function properly and improve the user experience. By using this site, you consent to the placement of these cookies. Click Accept to consent and dismiss this message or Deny to leave this website. Read our Privacy Statement for more.
Board Leader Cymru Cymraeg
/

Board Leader Cymru

6 Hydref 2021 - 29 Ebrill 2022

Cyfres chwe mis o ddosbarthiadau meistr a rhwydweithio ar gyfer ymddiriedolwyr elusennau a mentrau cymdeithasol, wedi’u  harwain gan hwyluswyr arbenigol, gyda’r nod o hoelio sylw, herio ac ysbrydoli.

Am ddim

Cais wedi cau Cofrestrwch i gael diweddariadau

Gwybodaeth am y rhaglen

Mae ymddiriedolwyr yn chwarae rhan allweddol wrth reoli a chyfarwyddo elusennau. Mae ymddiriedolaeth dda ar ffurf set o sgiliau ac ymddygiadau yn ased amhrisiadwy, sy’n cyfrannu at gynaliadwyedd, effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd sefydliad.

Dros y gyfres o chwe dosbarth meistr, bydd carfan o 25 o ymddiriedolwyr yn cymryd rhan mewn digwyddiadau rhyngweithiol lle byddant yn dod ynghyd i ddysgu, trafod a chydweithredu ar rai o’r materion mwyaf tyngedfennol sy’n wynebu sefydliadau sector cymdeithasol a diwylliannol yng Nghymru.

Bwriedir i’r dosbarthiadau meistr fod yn ‘naid ddwfn’ i bwnc, yn seiliedig ar astudiaeth achos go iawn, wedi’u harwain gan arbenigwr. Yna, bydd y garfan yn cymryd rhan mewn trafodaeth wedi’i hwyluso i ddysgu am eu hatebion o’r byd go iawn i rai o’r materion arweinyddiaeth hyn.

Mae’r rhaglen yn gyfle i ymddiriedolwyr ddatblygu a thyfu yn eu rôl gyda chefnogaeth ac mewn modd strwythuredig. Bydd ymddiriedolwyr yn gorffen y rhaglen gyda mwy o ymdeimlad o hyder a phecyn o ddysgu y gallant fynd ag ef yn ôl i’w bwrdd.

 

Manylion y Cwrs
  • Yn Saesneg, Gymraeg ar gais
  • Ymrwymiad o 4 i 5 niwrnod (28-30 awr)
  • Pob lefel profiad
  • Am ddim
Nodweddion y Cwrs
  • 6 dosbarth meistr
  • Cymuned ar-lein
  • 25 lle
  • Cynfyfyrwyr Clore Social

Partner & chyllidwyr

/

Cyrraedd eich potensial

Dim ond 25 o leoedd wedi’u hariannu sydd ar gael gennym! Rhoddir blaenoriaeth i geisiadau cynnar, lle y bo’n bosibl, felly gwnewch gais cyn gynted â phosibl. Os nad ydych chi’n barod i wneud cais eto, cofrestrwch eich diddordeb mewn cael diweddariadau am raglenni a negeseuon atgoffa am wneud cais.

Meini prawf cymhwysedd

Pob lefel profiad

Mae’r rhaglen hon ar gyfer ymddiriedolwyr elusennau cofrestredig a mentrau cymdeithasol sy’n gweithredu yng Nghymru. Gallai’r profiad fod yn brofiad rhan-amser a/neu â thâl neu’n wirfoddol.

Yn agored i feddwl yn wahanol

Mae angen lle ar ymddiriedolwyr lle y cânt eu herio i feddwl yn wahanol ac yn ddewr, gan gymhwyso’u gwybodaeth newydd i heriau gwirioneddol eu bywyd.

Yn awyddus i ddatblygu

Rydym ni’n annog ceisiadau gan fenywod, pobl o gefndiroedd du ac ethnig leiafrifol, a phobl sy’n gweithio’r tu allan i ddinasoedd mawr Cymru.

Yn angerddol am newid cymdeithasol

Mae eich ymroddiad i hunanwella fel y gallwch yrru newid cymdeithasol effeithiol yn hanfodol i ymgeisydd eithriadol.

Strwythur a deilliannau

Bydd gan bob un o’r dosbarthiadau meistr amcanion dysgu, ychydig o waith paratoi a gwaith cartref i helpu i fyfyrio’n ddwfn a gwreiddio dysgu, a byddant yn cynnwys naid ddwfn i amrywiaeth o bynciau.

Bydd cyfres y dosbarthiadau meistr yn cynnig cipolwg ddifyr a heriol i bynciau sydd eisoes yn flaenllaw ym meddyliau ymddiriedolwyr, a lle i drafod y materion hyn yn adeiladol gyda grŵp o gymheiriaid. A hoffech chi wella’ch perfformiad fel aelod Bwrdd? Gadewch gyda phecyn o hyfforddiant a chynnwys y gallwch fynd ag e yn ôl i’ch sefydliad.


Cliciwch ar y botymau isod i ddysgu rhagor am ddeiliannau disgwyliedig y rhaglen.

Byddwch yn cael cyflwyniad i ymddiriedolaeth, deall eich rôl a’ch rhwymedigaethau a’ch cyfnod yn y swydd. Gallwch gymryd rhan mewn trafodaethau am heriau presennol ymddiriedolwyr a’r hyn sy’n eich cymell i fod yn ymddiriedolwr. Rhoddir lle i feddwl am eich dadansoddiad eich hun o sgiliau a’ch datblygiad personol, gyda’ch lles ac arddull arwain ddilys yn flaenllaw.

Gallwch adnewyddu eich gwybodaeth am sylfeini gweithrediadau bwrdd, gan gynnwys gofynion adrodd, strwythurau cyfreithiol, strategaeth ac effaith. Mae’r rhain ymhlith y pynciau a drafodir gydag ymddiriedolwyr profiadol a’ch grŵp cymheiriaid.

Mae gan ymddiriedolwyr gyfrifoldeb ariannol tuag at eu sefydliadau. Pu’n a oes gennych gefndir mewn cyllid ai peidio, mae llawer i’w ddysgu am gyllid, risg ac adrodd. Mae arbenigwyr yn dod â hyn yn fyw trwy astudiaethau achos a thrafodaethau pellach.

Byddwch yn gwella’ch cysylltiadau ag ymddiriedolwyr eraill wrth i chi drafod dynameg bwrdd, amrywiaeth, gwneud penderfyniadau ar y cyd a pherthnasoedd o fewn a’r tu hwnt i’r bwrdd ymddiriedolwyr.

Mae rheoli risg yn gyfrifoldeb hanfodol i fwrdd ymddiriedolwyr. Mae hwn yn cwmpasu meysydd strategaeth, gwneud penderfyniadau, risg i enw da a defnyddio data i reoli risg.

Byddwch yn ystyried arloesi yng nghyd-destun gwelliant parhaus. Cewch eich arwain i feddwl yn greadigol a thrafod prosesau arloesi, a dysgu o brofiadau y mae ymddiriedolwyr sy’n wynebu senarios tebyg yn eu rhannu.

Gwybodaeth am wneud cais

Pris y rhaglen

Diolch i gefnogaeth hael a charedig y cyllidwyr, gallwn gynnig y rhaglen hon yn rhad ac am ddim. Mae hyn yn rhan o’n hymrwymiad ar y cyd i ddarparu hyfforddiant sgiliau a datblygiad hygyrch i bawb. Mae’n gyfle unigryw i gael at gwerth miloedd o bunnoedd o hyfforddiant ar reolaeth ac arweinyddiaeth yn rhad ac am ddim.


Arweiniad ar wneud cais

Rydym yn argymell eich bod yn lawrlwytho ac yn darllen y Canllaw ar wneud cais (dogfen Word) i gynllunio’ch ymatebion ymlaen llaw cyn llenwi’r ffurflen gais ar-lein, oherwydd ni fydd y ffurflen yn arbed eich atebion, felly rhaid i chi lenwi’r cyfan ar yr un pryd.

Ein dulliau

Bydd Fframwaith Galluoedd Cymdeithasol a Model Datblygu Arweinyddiaeth Clore Social Leadership yn llywio dysgu’r rhaglen. Trwy ddefnyddio ein Model Datblygu Arweinyddiaeth (isod), byddwch yn dysgu sut a pha olwg sydd ar y sgiliau a’r ymddygiadau hyn ar waith, lle mae eich cryfderau a’ch meysydd i’w gwella, a sut y gallwch eu datblygu a’u hannog ynoch chi’ch hun ac eraill. Trwy ddefnyddio ein Fframwaith Galluoedd Cymdeithasol (isod), cewch eich arwain i ddatblygu galluoedd arwain hael, angerddol, dewr, â ffocws, sy’n ysbrydoli ac yn grymuso – rhinweddau hanfodol i unrhyw arweinydd effeithiol.

Adnabod eich hun, Bod yn naturiol, Gofalu amdanoch eich hun

Rhaid i ddatblygiad arweinyddiaeth ddechrau gyda hunanymwybyddiaeth. Mae’r arweinwyr mwyaf llwyddiannus yn asesu’u cryfderau, eu gwendidau, eu cymhellion a’u gwerthoedd yn feirniadol. Mae arweinyddiaeth yn anodd, felly mae’n bwysig hefyd meithrin gwydnwch corfforol ac emosiynol, a gofalu am eu lles eu hunain fel y gallant ymateb yn effeithiol i heriau arweinyddiaeth.

Cliciwch ar y cylchoedd mewnol i ddysgu rhagor.

Asesu Cyd-destun

Mae ‘systemau’ y sector cymdeithasol yn newid yn gyflym. Rydym yn byw mewn byd deinamig sy'n trawsnewid ein gweithleoedd, gwleidyddiaeth, cymunedau a materion moesol. Er mwyn cwrdd â'r gofynion hyn, mae angen i arweinwyr cymdeithasol ddeall cymhlethdodau systemau sy’n newid. Rhaid iddynt hefyd fod yn ymwybodol o'r heriau a'r cyfleoedd sydd o'n blaenau i lywio eu timau a'u sefydliadau, a gwneud y gorau o'r hyn y mae'r newidiadau hyn yn ei gynnig.

Cliciwch ar y cylchoedd mewnol i ddysgu rhagor.

Gweithio Gyda a Thrwy Eraill

Nid yw arweinydd yn bodoli nac yn llwyddo ar ei ben ei hun. Mae angen sgiliau cymdeithasol ac empathi i ysbrydoli, cymell a grymuso eraill, wrth barchu amrywiaeth a dathlu'r pŵer a ddaw yn sgil gwenud gwahaniaeth. Mae gweithio gydag eraill a thrwy eraill yn cynnwys cydweithredu, ffurfio partneriaethau, yn ogystal ag ysbrydoli a thyfu arweinwyr eraill, i gyd wrth gael effaith gymdeithasol gadarnhaol.

Cliciwch ar y cylchoedd mewnol i ddysgu rhagor.

Fframwaith Galluoedd Arweinyddiaeth Gymdeithasol

 

Mae bod yn arweinydd cymdeithasol a moesegol yn galw am alluoedd penodol. Mae’r Fframwaith Galluoedd Arweinyddiaeth Gymdeithasol yn amlinellu’r priodweddau, yr ymddygiadau a’r sgiliau y mae eu hangen ar gyfer arweinyddiaeth lwyddiannus yn y sector cymdeithasol. Mae’r Fframwaith Galluoedd yn dangos sut a pha olwg sydd ar y sgiliau a’r ymddygiadau hyn ar waith. Mae cael fframwaith yn galluogi arweinwyr i fyfyrio ac asesu’u sgiliau presennol. Mae’n rhoi’r grym iddynt amlygu bylchau mewn arweinyddiaeth a chynllunio’u datblygiad personol a phroffesiynol eu hunain.

 

Galluogwr Ymrymuso

  • Ymrymuso pobl eraill i ymgymryd â hyfforddiant a heriau newydd
  • Bod yn esiampl i eraill, gan hunanddatblygu’n barhaus
  • Meithrin amgylchedd lle y gall pob eraill ragori
  • Arddangos meddylfryd twf, gyda pharodrwydd i ddysgu
Cliciwch ar allu arall i ddysgu rhagor.

Strategwr â Ffocws

  • Yn parhau i geisio creu gwelliant sefydliadol i'r bobl y maent yn eu gwasanaethu
  • Myfyriol ac yn defnyddio gwybodaeth gymhleth
  • Yn cyflawni canlyniadau
  • Yn ddyfeisgar ac yn strategol, yn ystyried systemau a chyd-destun ehangach
Cliciwch ar allu arall i ddysgu rhagor.

Eiriolwr Angerddol

  • Angerddol am achos, wedi ymrwymo i'r genhadaeth a'r bobl maen nhw'n eu gwasanaethu
  • Cwmpawd moesol cryf
  • Cyfrifoldeb dinesig eang, yn cymryd rhan mewn dadl a gweithgareddau
  • Yn edrych o fewn a thu hwnt i'r sector i ddod o hyd i atebion ar gyfer newid cymdeithasol
Cliciwch ar allu arall i ddysgu rhagor.

Cydweithredwr Hael

  • Sefydlu a thyfu partneriaethau a pherthnasoedd cydweithredol
  • Yn rhannu gwybodaeth, asedau ac amser yn hael
  • Yn meithrin ymddiriedaeth trwy geisio a rhoi adborth
  • Yn gwahodd cyfraniad cynhwysol, gwerthfawrogi sgiliau a gwybodaeth, parchu amrywiaeth
Cliciwch ar allu arall i ddysgu rhagor.

Gwneuthurwr newidiadau dewr

  • Yn gwrtais ac yn gyrru newid
  • Cymerwr risg cyfrifol
  • Yn datblygu atebion arloesol gydag eraill a thrwy eraill
  • Rhyfedd, mae ganddo ragwelediad ac yn gofyn pam
Cliciwch ar allu arall i ddysgu rhagor.

Cyfathrebwr Ysbrydoledig

  • Yn ymwneud ag eraill â dilysrwydd
  • Dylanwadol a hyderus
  • Mynegiant clir o genhadaeth a gwerthoedd
  • Hyblyg, yn gallu addasu dull ac ail-lunio yn seiliedig ar adborth
Cliciwch ar allu arall i ddysgu rhagor.

Dyddiadau allweddol

Dyddiad cau ar gyfer gwneud cais

Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais yw nos Lun 26 Gorffennaf 2021, am 11:59pm. Sicrhewch eich bod yn cyflwyno’ch cais yn gynnar oherwydd nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael.

Penderfyniad cymedroli

Cynhelir y broses gymedroli rhwng 27 Gorffennaf a 3 Awst a chaiff ymgeiswyr wybod am y penderfyniad erbyn 3 Awst 2021.

Dechrau’r rhaglen

Bydd y rhaglen yn dechrau ar 6 Hydref 2021. Mae disgwyl i’r rhaglen ddod i’w therfyn tua 29 Ebrill 2022.

Cwestiynau Cyffredin

Nac oes, nid oes angen unrhyw gymwysterau academaidd na phroffesiynol penodol arnoch i gymryd rhan yn y rhaglen. Gwyddom y gall fod yn anodd iawn cael gafael ar hyfforddiant datblygu arweinyddiaeth yn y sector cymdeithasol, felly rydym yn ceisio’i wneud yn hygyrch i bobl heb fawr ddim hyfforddiant blaenorol. Eich angerdd tuag at y sector cymdeithasol a’ch profiad ohono yw’r cyfan y mae eu hangen arnoch i wneud cais.

Bydd ceisiadau’n cael eu barnu ar sail rhinweddau’r atebion a sut ystyrir eu bod yn addas i’r rhaglen a’r garfan. Yn hynny o beth, mae’n wirioneddol bwysig i chi gymryd amser i feddwl am eich atebion. I ddechrau, bydd lleoedd ar y rhaglen yn cael eu cynnig i ymddiriedolwyr llai profiadol.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, e-bostiwch ni ar socialleaderscymru@wales.coop. Edrychir ar y cyfeiriad e-bost hwn deirgwaith yr wythnos, felly dylech ddisgwyl y bydd hi’n cymryd 48 awr am ateb.

Fel un o gyn-fyfyrwyr Clore Social, byddwch yn ymuno â rhwydwaith mawr o arweinwyr y sector cymdeithasol ledled y DU. Bydd cyfleoedd i gysylltu â chyn-fyfyrwyr lleol a pharhau i ddysgu’n cael eu cefnogi, eu hannog a’u hwyluso, lle bynnag y bo’n bosibl. Rydym ni bob amser yn datblygu rhaglenni newydd i’w cynnig ac efallai bydd gennym rywbeth o ddiddordeb i chi yn y dyfodol, felly cadwch mewn cysylltiad, a rhowch wybod i ni os oes gennych unrhyw syniadau, neu os hoffech ddatblygu rhywbeth gyda ni i’ch sefydliad chi.

Cynyddu’ch potensial arwain

Rhaglenni a chyrsiau eraill yn y gyfres

Am ddim
/

Emerging Leader Cymru

Cais wedi cau

Rhaglen chwe mis i helpu arweinwyr sy'n dod i'r amlwg i adeiladu eu potensial o ran arweinyddiaeth a sbarduno newid cymdeithasol.

20 Medi 2021 - 25 Mawrth 2022
Darganfyddwch fwy
Am ddim
/

Experienced Leader Cymru

Cais wedi cau

Rhaglen naw mis wedi'i chynllunio ar gyfer y rhai sydd â chwe blynedd a mwy o brofiad arwain.

27 Medi 2021 - 29 Ebrill 2022
Darganfyddwch fwy
Am ddim
/

New Manager Cymru

Cais wedi cau

Rhaglen bedwar mis wedi'i hanelu at reolwyr newydd, neu'r rhai sy'n chwilio am adnewyddiad rheoli.

3 Tachwedd - 1 Ebrill
Darganfyddwch fwy
Am ddim
/

Digital Leader Cymru

Ceisiadau ar agor

Cwrs pum wythnos wedi'i gynllunio i arfogi holl arweinwyr y sector cymdeithasol â'r offer i ffynnu mewn byd digidol.

Ionawr/Chwefror 2022
Darganfyddwch fwy
Am ddim
/

Community Leader Cymru

Cais wedi cau

Rhaglen ddeufis ar gyfer arweinwyr cymunedol lleol, sy'n gweithio o fewn neu'n arwain grwpiau a / neu brosiectau.

6 Mehefin - 5 Awst 2022
Darganfyddwch fwy