| New Manager Cymru Cymraeg |
New Manager Cymru3 Tachwedd 2021 - 1 Ebrill 2022Rhaglen bedwar mis sy’n datblygu sgiliau a thechnegau allweddol i lwyddo a thyfu mewn rôl, a fydd yn ysbrydoli rheolwyr newydd sydd wedi eu cyffroi gyda’r posibiliadau o sbarduno newid cguidymdeithasol ac sydd â dyhead i fod yn arweinwyr yn
y dyfodol.
Cais wedi cau Cais wedi cau Cofrestru ar gyfer diweddariadauGwybodaeth am y rhaglenRheolwyr newydd yw dyfodol hirdymor ein sectorau. Fodd bynnag, mae amgylchedd gweithredu heriol a chyfnewidiol yn golygu nad ydyn nhw’n aml yn derbyn y cymorth a’r datblygiad yn y cyfnod cynnar y gallen nhw elwa arno. Yn aml, mae gan reolwyr
gysylltiadau pwysig, maen nhw’n rheoli timau a chyllidebau ac yn gweithio’n agos gyda buddiolwyr. Am ragor o wybodaeth, gwyliwch ein Gweminar Holi ac Ateb. Gwyliwch y GweminarManylion y Cwrs
Nodweddion y cwrs
Partner & Chyllidwyr![]() Gwireddu’ch potensialDyma gyfle unigryw i ddatblygu’ch hun yn arweinydd cyflawn, sy’n gallu gwireddu ei botensial ac sy’n hyderus i roi newid ystyrlon ar waith mewn cymdeithas. Am ragor o wybodaeth, gwyliwch ein Gweminar Holi ac Ateb. Meini prawf cymhwyseddProfiad rheoli 0-3 years blyneddMae’r cwrs hwn yn fwyaf addas ar gyfer y rhai sy’n newydd i reoli neu sydd am loywi eu sgiliau. Rheolwyr newydd yw’r rhai sydd â rhwng 0-3 blynedd o brofiad o reoli prosiect neu dîm yn y sectorau elusennol, mentrau cymdeithasol neu ddiwylliannol yng Nghymru. Gallai’r profiad fod yn un rhan amser neu lawn amser gyda neu heb dâl neu’n wirfoddol. Gweithio at ddiben cymdeithasolMae hyn yn cyfeirio at sefydliadau neu waith llawrydd gyda diben cymdeithasol, gan gynnwys elusennau, mentrau cymdeithasol, CICs, adrannau CSR ac ati. Awyddus i ddatblyguRydym yn annog ceisiadau gan fenywod, pobl o gefndiroedd du a lleiafrifoedd ethnig, a’r rhai sy’n gweithio y tu allan i ddinasoedd mawr Cymru. Angerdd am newid cymdeithasolMae ymroddiad i hunanwella fel y gallwch chi sbarduno newid cymdeithasol yn hanfodol i ymgeisydd rhagorol. Barn ein cyfranogwyr blaenorolCanlyniadauBeth yw rheoli? Ddim yn siŵr beth yw’ch rôl newydd? Neu ydych chi am ddeall sut i weithio’n well yn eich tîm? Mae’r cwrs byr hwn yn edrych ar hanfodion rheoli o safbwynt pobl, waeth a ydych chi’n camu o’r newydd i fyd rheoli, neu am loywi’ch sgiliau, mae’r cwrs hwn yn lle da i ddechrau.
Cyfle i nodi a datblygu’r hyn sy’n cyfateb i reolaeth dda yn y sector cymdeithasol. Magwch hyder yn eich galluoedd rheoli a dysgwch sut i lywio cymhlethdod, ansicrwydd a newid yn hyderus. Dysgwch fwy am eich gwerthoedd eich hun a’ch ‘pam’. Bydd y rhaglen yn eich helpu i fod yn rheolwr sy’n gallu gwireddu ei botensial. Mae rheoli da yn dechrau gyda chyfathrebu effeithiol. Datblygwch sut rydych yn cyfathrebu â’ch tîm i greu gwell dealltwriaeth a pherthnasoedd. Mae hyn yn cynnwys technegau i reoli sgyrsiau anodd a gwrthdaro, rhoi adborth adeiladol a rheoli perfformiad gwael. Cyfle i ddarganfod y camau ymarferol sydd eu hangen arnoch i greu tîm effeithlon, sy’n cyflawni o’i orau ac yn sicrhau canlyniadau. Mae cymhelliad yn rhan enfawr o reoli - cymell eich hun a’ch tîm. Cyfle i bwyso a mesur
ffyrdd o reoli yn effeithiol i fyny’r gadwyn a delio â chyfathrebu mewnol a fydd yn arwain at dîm rhagorol. Cynlluniwch eich llwyth gwaith er mwyn sicrhau diwrnod effeithlon, a byddwch yn ymwybodol o pryd i ddirprwyo. Mae’r pynciau yn cynnwys cynllunio’r diwrnod, rheoli prosiectau mawr a deall capasiti gwaith eich tîm. Rheoli o bell gyda hyder, arwain cyfarfodydd llwyddiannus a gwella’ch sgiliau rheoli prosiect. Adeiladu’ch ymwybyddiaeth o arferion da ym maes cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant. Byddwch hefyd yn dysgu sut i oruchwylio, arfarnu a disgyblu yn broffesiynol ac yn briodol. Bydd trafodaethau a gweithdai yn cael eu seilio ar strwythurau sefydliadol, llywodraethu, deinameg pŵer a diwylliant. Rydym yn eich annog chi a’ch carfan i gymryd camau ymarferol i fod yn well rheolwr ac arweinydd yn yr hirdymor.
Gwybodaeth am wneud caisPris y rhaglenDiolch i haelioni a chymorth caredig y cyllidwyr, gallwn gynnig y rhaglen hon am ddim. Mae hyn yn rhan o’n cyd-ymrwymiad i ddarparu sgiliau hygyrch a hyfforddiant datblygu i bawb. Mae’n gyfle unigryw i gael mynediad at werth miloedd o bunnoedd o hyfforddiant rheoli ac arwain am ddim. Canllawiau ar wneud caisArgymhellwn eich bod yn lawrlwytho a darllen y Canllawiau ar wneud Cais (dogfen Word) i gynllunio’ch atebion cyn cwblhau ffurflen gais ar-lein, gan na fydd y ffurflen yn cadw’ch atebion, felly mae’n rhaid i chi ei chwblhau mewn un eisteddiad. Dyddiadau a’r drefn gwneud caisGallwch wneud cais am y rhaglen hon nawr ar ffurflen ar-lein. Noder mai’r dyddiad cau ar gyfer y cais yw 11:59pm ddydd Llun 6 Medi 2021 – bachwch ar y cyfle
nawr!
Elfennau’r rhaglenBydd y rhaglen yn cynnig mynediad at ymyriadau datblygu rheolaeth ac arweinyddiaeth sydd wedi’u cynllunio i helpu cyfranogwyr i feithrin y sgiliau, y wybodaeth a’r rhwydweithiau sydd eu hangen i reoli timau a dechrau arwain newid cymdeithasol yn effeithiol.
Yn cynnwys hwyluswyr a hyfforddwyr arbenigol Clore Social Leadership a fydd yn cyflwyno sesiynau allweddol. Mae sesiynau hyfforddi ar ffurf gweminarau yn gyfle gwych i chi gael profiad trochi, a thrafod cynnwys allweddol yn dreiddgar. Bydd yn gyfle hefyd i feithrin y cysylltiadau rhwng cyfranogwyr. Bydd y sesiynau yn cynnwys ymarferion, cyflwyniadau, grwpiau llai a gweithgareddau eraill wedi’u seilio ar anghenion y grŵp. Gall y rhaglen newid yn dibynnu ar yr anghenion a’r sgiliau a nodir. Fodd bynnag, mae modiwlau craidd yn debygol o gynnwys pynciau ar reoli hyfforddiant ynghyd â themâu sy’n ymwneud â Fframwaith Galluoedd Cymdeithasol y Clore Social Leadership (isod). Dysgwch o brofiad eraill. Bydd ein harbenigwyr yn darparu deunydd darllen buddiol i chi ac ymchwil i wersi allweddol, heriau a chyngor i gyd-fynd â’r dysgu ar y rhaglen, a thu hwnt! Bydd cyfranogwyr yn rhoi’r syniadau, prosesau a thechnegau a drafodir yn y sesiynau ar waith, ac yna’n adrodd yn ôl i’w grŵp er budd addysg pawb. Fe'ch tywysir trwy gydol y rhaglen gan hwyluswyr arbenigol Clore Social Leadership. Mae’r rhaglen yn cael ei llywio’n bennaf gan y cyfranogwyr, a’r newid maen nhw am ei greu yn eu sefydliad. Rydym am eich grymuso i fod yn arweinydd cryf, empathetig.
Ein dulliauBydd y rhaglen yn eich cyflwyno i sylfeini datblygu arweinyddiaeth. Dysgwch fwy am ein Model Datblygu Arweinyddiaeth a'n Fframwaith Galluoedd Cymdeithasol isod. Adnabod eich hun, Bod yn naturiol, Gofalu amdanoch eich hunRhaid i ddatblygiad arweinyddiaeth ddechrau gyda hunanymwybyddiaeth. Mae’r arweinwyr mwyaf llwyddiannus yn asesu’u cryfderau, eu gwendidau, eu cymhellion a’u gwerthoedd yn feirniadol. Mae arweinyddiaeth yn anodd, felly mae’n bwysig hefyd meithrin gwydnwch corfforol ac emosiynol, a gofalu am eu lles eu hunain fel y gallant ymateb yn effeithiol i heriau arweinyddiaeth. Cliciwch ar y cylchoedd mewnol i ddysgu rhagor. Asesu Cyd-destunMae ‘systemau’ y sector cymdeithasol yn newid yn gyflym. Rydym yn byw mewn byd deinamig sy'n trawsnewid ein gweithleoedd, gwleidyddiaeth, cymunedau a materion moesol. Er mwyn cwrdd â'r gofynion hyn, mae angen i arweinwyr cymdeithasol ddeall cymhlethdodau systemau sy’n newid. Rhaid iddynt hefyd fod yn ymwybodol o'r heriau a'r cyfleoedd sydd o'n blaenau i lywio eu timau a'u sefydliadau, a gwneud y gorau o'r hyn y mae'r newidiadau hyn yn ei gynnig. Cliciwch ar y cylchoedd mewnol i ddysgu rhagor. Gweithio Gyda a Thrwy EraillNid yw arweinydd yn bodoli nac yn llwyddo ar ei ben ei hun. Mae angen sgiliau cymdeithasol ac empathi i ysbrydoli, cymell a grymuso eraill, wrth barchu amrywiaeth a dathlu'r pŵer a ddaw yn sgil gwenud gwahaniaeth. Mae gweithio gydag eraill a thrwy eraill yn cynnwys cydweithredu, ffurfio partneriaethau, yn ogystal ag ysbrydoli a thyfu arweinwyr eraill, i gyd wrth gael effaith gymdeithasol gadarnhaol. Cliciwch ar y cylchoedd mewnol i ddysgu rhagor. Fframwaith Galluoedd Arweinyddiaeth Gymdeithasol
Mae bod yn arweinydd cymdeithasol a moesegol yn galw am alluoedd penodol. Mae’r Fframwaith Galluoedd Arweinyddiaeth Gymdeithasol yn amlinellu’r priodweddau, yr ymddygiadau a’r sgiliau y mae eu hangen ar gyfer arweinyddiaeth lwyddiannus yn y sector cymdeithasol. Mae’r Fframwaith Galluoedd yn dangos sut a pha olwg sydd ar y sgiliau a’r ymddygiadau hyn ar waith. Mae cael fframwaith yn galluogi arweinwyr i fyfyrio ac asesu’u sgiliau presennol. Mae’n rhoi’r grym iddynt amlygu bylchau mewn arweinyddiaeth a chynllunio’u datblygiad personol a phroffesiynol eu hunain.
Galluogwr Ymrymuso
Cliciwch ar allu arall i ddysgu rhagor.
Strategwr â Ffocws
Cliciwch ar allu arall i ddysgu rhagor.
Eiriolwr Angerddol
Cliciwch ar allu arall i ddysgu rhagor.
Cydweithredwr Hael
Cliciwch ar allu arall i ddysgu rhagor.
Gwneuthurwr newidiadau dewr
Cliciwch ar allu arall i ddysgu rhagor.
Cyfathrebwr Ysbrydoledig
Cliciwch ar allu arall i ddysgu rhagor.
Dyddiadau allweddolDyddiad cau ar gyfer gwneud caisY dyddiad cau ar gyfer gwneud cais yw dydd Llun 6 Medi 2021, am 11:59pm. Gofalwch eich bod yn cyflwyno'ch cais cyn gynted â phosibl gan nad oes llawer o leoedd ar gael. Penderfyniad safoniBydd y broses safoni’n cael ei chynnal rhwng 7 a 14 Medi a bydd ymgeiswyr yn cael gwybod y canlyniad erbyn 14 Medi 2021. Dechrau’r rhaglenBydd y rhaglen yn dechrau ar 3 Tachwedd 2021. Disgwylir i’r rhaglen ddirwyn i ben o gwmpas 1 Ebrill 2022. Cwestiynau CyffredinMae’r rhaglen yn fwyaf addas ar gyfer y rhai mewn rôl reoli newydd neu rywun sydd am loywi ei sgiliau. Rydym yn argymell y rhaglen i rai sydd â thair blynedd neu lai o brofiad rheoli. Mae’n amrywio o berson i berson ond rydym yn argymell dyrannu 8-12 diwrnod yn ystod y rhaglen. Fel gyda’r rhan fwyaf o bethau, mwya’n byd y byddwch chi’n ymroi i’r rhaglen, mwya’n byd y cewch chi allan ohoni. Cewch. Mae’r rhaglen wedi’i chynllunio i fod yn hyblyg i’ch amserlen. Bydd y rhaglen yn fuddiol i chi os ydych chi’n rheoli pobl (staff neu wirfoddolwyr) neu brosiectau. Rydym yn ystyried rheoli fel unrhyw rôl lle’r ydych chi’n gyfrifol am gyflawni prosiect a bod rhaid i chi weithio gydag eraill
i wneud i hyn ddigwydd. Gallai hyn olygu gweithio gyda phobl o fewn neu y tu hwnt i’ch sefydliad. Gwella eich hun, eich tîm a’ch sefydliad
Rhaglenni a chyrsiau eraill yn y gyfresAm ddim
Emerging Leader CymruCais wedi cauRhaglen chwe mis i helpu arweinwyr sy'n dod i'r amlwg i adeiladu eu potensial o ran arweinyddiaeth a sbarduno newid cymdeithasol. 20 Medi 2021 - 25 Mawrth 2022Darganfyddwch fwyAm ddim
Experienced Leader CymruCais wedi cauRhaglen naw mis wedi'i chynllunio ar gyfer y rhai sydd â chwe blynedd a mwy o brofiad arwain. 27 Medi 2021 - 29 Ebrill 2022Darganfyddwch fwyAm ddim
Board Leader CymruCais wedi cauCyfres dosbarth meistr a rhwydweithio chwe mis ar gyfer ymddiriedolwyr elusennau cofrestredig a mentrau cymdeithasol. 6 Hydref 2021 - 29 Ebrill 2022Darganfyddwch fwyAm ddim
Digital Leader CymruCeisiadau ar agorCwrs pum wythnos wedi'i gynllunio i arfogi holl arweinwyr y sector cymdeithasol â'r offer i ffynnu mewn byd digidol. Ionawr/Chwefror 2022Darganfyddwch fwyAm ddim
Community Leader CymruCais wedi cauRhaglen ddeufis ar gyfer arweinwyr cymunedol lleol, sy'n gweithio o fewn neu'n arwain grwpiau a / neu brosiectau. 6 Mehefin - 5 Awst 2022Darganfyddwch fwy |
29/09/2025 » 21/11/2025
Management Fundamentals September 2025
10/11/2025 » 05/12/2025
Discover Programme November 2025